O dan y drefn bresennol, nid yw gweithwyr iechyd sydd â HIV yn cael gwneud y rhan fwyaf o dasgau llawfeddygol neu ddeintyddol. Ond mae arbenigwyr wedi bod yn adolygu’r dystiolaeth sydd wedi’i chasglu ers 2005, pan gyflwynwyd y canllawiau presennol, ac wedi darganfod nad oes unrhyw achosion wedi’u cofnodi o HIV yn cael ei drosglwyddo gan weithwyr gofal iechyd.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan y Grŵp Cynghori Arbenigol ar AIDS, Panel Cynghori’r Deyrnas Unedig ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd sydd wedi’u Heintio â Feirysau a Gludir yn y Gwaed, a’r Panel Cynghori ar Hepatitis. Daeth yr adolygwyr i’r casgliad mai risg o un mewn pum miliwn sydd yna y bydd HIV yn cael ei drosglwyddo o weithiwr iechyd i glaf yn ystod triniaethau lle mae “amlygu yn bosibl” – hynny yw, triniaethau fel llawdriniaeth a phigiadau lle mae risg y bydd anaf i’r gweithiwr iechyd yn gallu golygu bod peth o’i waed yn cael ei drosglwyddo i’r claf.
Felly mae’r ymgynghoriad yn argymell y dylid llacio’r canllawiau presennol sy’n cyfyngu ar weithgareddau clinigol gweithwyr gofal iechyd sydd â HIV.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell:
“Diogelwch cleifion yw’r flaenoriaeth i ni bob amser. Fe wyddon ni, ar sail tystiolaeth sydd wedi’i chasglu dros gyfnod o flynyddoedd, nad yw’r rhan fwyaf o ddyletswyddau nyrsio a meddygol yn achosi risg i gleifion o ran dal HIV, cyn belled ag y bo’r camau priodol yn cael eu cymryd i reoli heintiau.
“Hyd yn oed yn achos y triniaethau mwyaf dwys, fel llawdriniaeth ar y galon, nid yw’r risg o drosglwyddo HIV i’r claf yn fwy na thua un mewn pum miliwn – sef yr un faint o risg â chael eich taro gan fellten.
“Mae’n briodol, felly, ein bod nawr yn ailystyried ein canllawiau er mwyn adlewyrchu’r hyn y mae tystiolaeth wyddonol yn ei ddweud wrthym am y risg o drosglwyddo HIV o weithwyr gofal iechyd i gleifion.”
Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 23 Chwefror.











