Bydd yn cyhoeddi cynigion ar gyfer Bil drafft er mwyn cynnal ymgynghoriad arnynt. Nod y Bil yw rhoi mwy o wybodaeth i’r cyhoedd am safleoedd lle maen nhw’n bwyta neu’n prynu bwyd, a chodi safonau hylendid busnesau. Bydd hynny’n helpu i ddiogelu iechyd pobl trwy leihau nifer yr achosion o glefydau sy’n cael eu cario mewn bwyd.
Ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths, â’r Habit Tea Room yn Llandudno i lansio’r ymgynghoriad.
Mae cyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd gorfodol yn un o ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu, a hwn fydd y cynllun gorfodol cyntaf ym Mhrydain.
O dan y cynllun, bydd busnesau’n cael sgôr rhwng 0 a 5. Mae 0 yn golygu bod angen gwella ar frys a 5 yn golygu bod y safonau hylendid yn dda iawn.
Bydd yn sgôr yn seiliedig ar feini prawf sy’n cynnwys safonau trafod bwyd - fel sut mae’r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei oeri a’i gadw - a chyflwr y safle.
Bydd yn rhaid i fusnesau arddangos eu sgôr mewn man amlwg, fel ar ddrws y fynedfa, neu byddan nhw’n wynebu cael dirwy. Cyhoeddir y sgoriau ar-lein.
Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ym mis Hydref 2011 gan Lais Defnyddwyr Cymru, mae 94% o bobl Cymru yn credu y dylid gorfodi busnesau bwyd i arddangos eu sgôr hylendid.
Mae’r Athro Hugh Pennington, a gadeiriodd yr ymchwiliad cyhoeddus i’r achos o E.coli a ddigwyddodd yn 2005 yng Nghymru, yn cefnogi cynllun gorfodol. Yr achos hwn o E.coli oedd yr achos mwyaf ond un i ddigwydd erioed ym Mhrydain, gydag un yn marw, a 150 o achosion eraill a oedd wedi arwain at 31 o dderbyniadau i’r ysbyty ac effeithiau hirdymor ar iechyd nifer o blant.
Bydd tua 30,000 o fusnesau yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn y Cynllun. Ar hyn o bryd, mae mwy na 13,500 wedi cael sgôr o dan gynllun gwirfoddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd – er mai dim ond un o bob tri ohonynt sy’n arddangos eu sgôr.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:
“Mae hylendid bwyd yn hollbwysig er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, a bydd y cynllun hwn yn gwella safonau gan ddod â manteision i’r cwsmeriaid ac i’r busnes.
“Bydd y cynllun yn helpu’r cyhoedd i benderfynu ble i fwyta neu siopa am fwyd.
“Bydd gorfodi busnesau bwyd i arddangos sgoriau hylendid hefyd o fantais i’r busnes ei hunan. Mae safonau hylendid bwyd da yn arwain at sgôr dda, ac mae hynny’n dda i’r busnes.
“Trwy orfodi busnesau i arddangos eu sgôr, byddan nhw’n cael eu hannog i wella eu harferion a chodi eu safonau. Mae’r Athro Hugh Pennington, a gadeiriodd yr ymchwiliad cyhoeddus i’r achos o E.coli a ddigwyddodd yn 2005, yn cefnogi cynllun o’r fath gan ei fod yn ffordd gymharol rad o gyflwyno gwelliannau sylweddol i ddiogelwch bwyd.
“Eisoes mae’r gyfraith bwyd yn gofyn i fusnesau bwyd gadw at reoliadau hylendid. Ond, ar hyn o bryd, nid yw’n gofyn i fusnesau arddangos eu sgôr ac nid yw’r rheini sy’n cael sgôr isel yn ei harddangos.
“Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau eisoes yn rhan o’r cynllun gwirfoddol presennol. Felly, rydyn ni’n awyddus i weithio’n agos â busnesau i sicrhau bod y cynllun gorfodol yn cael ei gyflwyno mor ddidrafferth â phosibl.”
Disgwylir na fydd y cynllun gorfodol ar waith cyn 2014, gyda’r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio cyn hynny fel y bydd digon o amser i fusnesau ymbaratoi.
Fel sy’n digwydd gyda’r cynllun gwirfoddol presennol, bydd mynychder yr arolygiadau’n cael ei seilio ar asesiad o’r risg i’r defnyddiwr, er enghraifft y math o fusnes bwyd, natur y bwyd a maint y busnes.
Caiff busnesau wneud cais am arolygiad ailsgorio, a byddan nhw hefyd yn cael apelio yn erbyn eu sgôr os ydyn nhw’n meddwl ei bod yn annheg.
O dan y ddeddfwriaeth, byddai hysbysiadau cosb benodedig o £200 yn cael eu cyflwyno ar gyfer tramgwyddau fel peidio ag arddangos sgôr, gyda disgownt os bydd busnes yn talu’n gynnar. Hefyd, byddai pwerau i erlyn busnesau. £1000 fyddai uchafswm y ddirwy.
Bydd cymorth ar gael i helpu busnesau i wella’u sgoriau. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau i sicrhau bod arian ar gael i awdurdodau lleol Cymru allu ymweld â busnesau bwyd i’w cynghori ar sut i wella eu sgôr hylendid.











