Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Syr Richard Branson yn cefnogi cynlluniau rhoi organau Llywodraeth Cymru

Mae sylfaenydd Virgin, Syr Richard Branson, wedi llongyfarch y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau.
Dydd Llun 19 Rhagfyr 2011

Wrth siarad â’r Gweinidog yn ddiweddar, dywedodd Syr Richard:

“Rwy’n falch iawn bod Cymru yn bwriadu arwain y ffordd ym Mhrydain trwy gyflwyno system optio allan ar gyfer rhoi organau.

“Bydd hynny’n achub llawer o fywydau. Ar draws Prydain, mae 90% o’r boblogaeth yn cefnogi’r syniad o roi organau, ond dim ond 29% sydd ar y gofrestr. Mae system optio allan yn ei gwneud yn hawdd i bawb gytuno i roi eu horganau oni bai eu bod yn defnyddio’u hawl i beidio â gwneud hynny.

“Da iawn Cymru. Gobeithio y bydd yr Alban a Lloegr yn dilyn yn fuan er mwyn achub mwy o fywydau.”

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae pobl yng Nghymru yn marw wrth aros i gael trawsblaniad. Bydd system optio allan yn cynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru, ac yn achub mwy o fywydau, gan wella ansawdd bywyd pobl hefyd.

“Mae’n help cael rhywun adnabyddus i gefnogi ein polisi, a’r disgwyl yw y bydd y polisi hwnnw yn ei le erbyn 2015.

“Hyd nes bod hynny’n digwydd, mae’n bwysig iawn bod pobl yn parhau i ymuno â’r Gofrestr Rhoddwyr Organau, gan wneud yn siŵr bod eu teulu a’u ffrindiau yn gwybod beth yw eu dymuniadau.

“Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n ymgynghori ar ein cynigion, a hoffwn annog pawb sydd am roi sylwadau i wneud hynny cyn diwedd mis Ionawr.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Papur Gwyn: Cynigion ar gyfer Deddfwriaeth ar Roi Organau a Meinweoedd

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 19 Rhagfyr 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i