Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cael gwared ar Heintiau sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd (HCAI) y gellir eu hosgoi - Fframwaith gweithredu ar gyfer sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru

Un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru yw lleihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd (HCAI) y gellir eu hosgoi, ac mae hynny’n briodol iawn. Maent yn achos mawr o afiachusrwydd, marwolaeth, ac yn gost ychwanegol i ofal iechyd – ac mae trin heintiau yn mynd yn anoddach oherwydd y cynnydd brawychus mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Dydd Llun 19 Rhagfyr 2011

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths,  wedi lansio’r Fframwaith Gweithredu newydd i sefydliadau gofal iechyd – ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bolisi dim goddefgarwch i HCAI y gellir eu hosgoi heddiw (Dydd Llun 19 Rhagfyr).

Nod y Fframwaith yw sicrhau bod trefniadau priodol a chynaliadwy yn eu lle i atal a rheoli heintiau, yn ogystal â stiwardiaeth wrthficrobaidd gadarn, ar gyfer 2011-12 a thu hwnt. Fe’i datblygwyd mewn cydweithrediad â Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd lleol a phartneriaid gofal iechyd allweddol eraill yng Nghymru, gan gynnwys cyrff proffesiynol a chynghorau iechyd cymunedol.

Mae’r Fframwaith yn nodi’r prif gamau y bydd angen eu cymryd o dan bum prif ymrwymiad craidd:

  • newid diwylliant – i ddiwylliant lle mae polisi dim goddefgarwch i HCAI y gellir eu hosgoi;
  • arweiniad – cryfhau hyn ar bob lefel ac ymhob disgyblaeth a gwasanaeth;
  • gwella ansawdd a diogelwch – sicrhau bod arferion craidd o ran atal a rheoli heintiau yn rhan annatod o weithgareddau bob dydd;
  • mesur llwyddiant – arddangos cyflawniadau sy’n fesuradwy; a
  • rhannu gwybodaeth a bod yn dryloyw – meithrin a chynnal hyder dinasyddion a defnyddwyr gwasanaeth

ac yn pwysleisio i ba raddau y mae angen newid i fod yn llwyddiannus.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:

"Mae’r Fframwaith newydd hwn ar gyfer sefydliadau gofal iechyd yn gam pwysig ymlaen wrth fynd i’r afael â HCAI. Y neges gyffredinol yw bod atal a rheoli heintiau yn fater i bawb. Her i sefydliadau gofal iechyd, felly, yw helpu cleifion, ymwelwyr a staff i ddeall y rôl y gallant ei chwarae wrth fynd i’r afael â HCAI.”  

Ychwanegodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Tony Jewell:

“Rydym yn datblygu safonau a chanllawiau i sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru a fydd yn eu cynorthwyo nhw i leihau HCAI. Bydd y rhain yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal mwyaf priodol a’r driniaeth gywir. Mae’n hanfodol bod pawb sy’n gysylltiedig â darparu gofal iechyd – boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol – yn uno yn y frwydr i gael gwared ar HCAI y gellir eu hosgoi. Mae’r GIG yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – ond mae llawer rhagor i’w wneud.”

“Mae pwysau cynyddol ar y gwasanaethau gofal iechyd yn ystod misoedd y gaeaf o ganlyniad i heintiau anadlol tymhorol (e.e. y ffliw) a heintiau’r stumog a’r perfedd (e.e. feirysau chwydu’r/norofeirws) yn pwysleisio’r angen i wella a chynnal rhaglenni effeithiol i atal a rheoli heintiau.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ymrwymiad i’r Pwrpas: Dileu heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd (HGGI) y gellir eu hatal

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 19 Rhagfyr 2011 Cymru iachach Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i