Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd proffesiynol ar faterion iechyd a gofal iechyd i’r Prif Weinidog, i Weinidogion eraill Llywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y prif faterion y bu Dr Jewell yn canolbwyntio arnynt yn ystod ei gyfnod yn y swydd oedd Ein Dyfodol Iach a thaclo’r anghydraddoldeb sy’n bodoli a draws y wlad yn y maes iechyd. Bu’n gweithio gyda’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr angen at gamau gweithredu cadarn. Bu’n hyrwyddo’r cynllun gweithredu Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb, sydd â’r nod o leihau’r math o ymddygiadau sy’n arwain at ormod o achosion o farwolaethau cynnar yng Nghymru.
Bu’n llais arbennig o gryf yn yr ymgyrch i leihau lefelau smygu yng Nghymru. Roedd hynny’n cynnwys rheoli’r broses o gyflwyno’r gwaharddiad ar smygu mewn mannau gwaith, mannau cyhoeddus, tafarndai a thai bwyta. Mae’r gwaith o reoli tybaco hefyd yn cynnwys cyfyngu ar werthu tybaco drwy beiriannu gwerthu ac annog cyflwyno’r deddfwriaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig ar wahardd smygu mewn mannau caeedig fel ceir.
Thema arall fu’n amlwg yng ngwaith Dr Jewell fel Prif Swyddog Meddygol oedd lleihau effaith camddefnyddio alcohol. Bu’n gefnogol i gynlluniau yn y maes hwn yng Nghymru, er enghraifft y cynllun i leihau niwed yn economi’r nos yng Nghaerdydd. Dr Jewell oedd awdur Chi, eich plentyn ac alcohol: Canllaw ar blant a phobl ifanc yn defnyddio alcohol.
Fel Prif Swyddog Meddygol, bu Dr Jewell yn amlwg yn y gwaith o hyrwyddo gweithgarwch corfforol drwy’r polisi Creu Cymru Egnïol a’r cynllun cyfeirio i wneud ymarfer corff. Mae’n un o gyd-noddwyr argymhellion Prif Swyddogion Meddygol y DU ar weithgarwch corfforol, a lansiwyd yn 2011.
Mae hefyd wedi arwain camau gweithredu ar ddeiet a gordewdra ar gyfer pobl o bob oed – a hynny trwy Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru, datblygu llwybr Gordewdra, cyflwyno rheoliadau i wahardd gwerthu bwyd a diod nad ydynt yn iach mewn peiriannau mewn ysbytai, a chefnogi cynlluniau bwyd cydweithredol ledled y wlad.
Yn ei swyddogaeth fel Prif Swyddog Meddygol, mae Dr Jewell wedi arwain ar lawer o faterion sy’n effeithio ar iechyd pobl Cymru. Ymysg y rhain roedd arwain y gwaith o reoli’r pandemig ffliw yn 2009 a chynghori Llywodraeth Cymru ar y camau priodol. Bu’n goruchwylio Ymchwiliad Pennington i E Coli ac ymateb y llywodraeth iddo, a arweiniodd at gynigion ar gyfer cynllun sgorio hylendid bwyd. Yn ogystal, ef oedd yn arwain y tîm amlsector a baratôdd yr ymateb cenedlaethol i’r clwstwr o achosion o hunanladdiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, drwy gynhyrchu’r strategaeth "Beth am siarad â fi?"
Bu Dr Jewell yn gweithio gyda’i gydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd i wella iechyd i bawb, drwy hyrwyddo’r defnydd o driniaethau effeithiol ac effeithlon. Roedd hynny’n cynnwys hybu a chefnogi’r ymgyrch 1000 o Fywydau a Mwy ac annog ymchwil iechyd a rhoi gwybodaeth ar waith.
Roedd Dr Jewell yn arbennig o awyddus i sicrhau bod Cymru yn adeiladu ar ei chryfder ym maes ymchwil iechyd ac yn cynnal yr enw da sydd ganddi ar draws y byd fel gwlad o arloesi ac arbenigedd. Bu’n cydweithio’n agos ag academyddion mewn Prifysgolion drwy’r wlad i feithrin rhagor o gydweithredu ac i roi ymchwil ar waith yn gyflymach. Arweiniodd y gwaith o lansio’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a Rhaglen y GIG ar Gydweithredu Academaidd ym maes Gwyddorau Iechyd. Bellach, mae gan Gymru un Ganolfan Ymchwil Biocemeg/MRC a thair Uned Biocemeg yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor, sy’n hybu rhagoriaeth yn y maes ymchwil.
Chwaraeodd Dr Jewell ran allweddol hefyd yn y gwaith o greu seilwaith newydd ar gyfer Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys arwain y gwaith o greu Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am feysydd gwaith ym maes ymarfer iechyd cyhoeddus, a phenodi Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd mewn Byrddau Iechyd Lleol.
Fel Prif Swyddog Meddygol, rhoddodd gefnogaeth gref i greu Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus a Sefydliad Iechyd Cyhoeddus i Gymru. Wrth i’r rhain ddatblygu’n llawn byddant yn gwneud llawer i’n helpu i ddeall yr hyn sy’n dylanwadu ar ein hiechyd a pha gamau gweithredu effeithiol y gallwn eu cymryd.
Roedd Dr Jewell yn falch o gael gweithio gyda chydweithwyr i greu cysylltiadau iechyd gyda gwledydd sy’n datblygu yn Affrica. Mae’n parhau i weithio i godi proffil y cynllun Cymru o Blaid Affrica ac mae wedi ymweld â sawl prosiect i’w cefnogi ac i asesu eu cyfraniad.
Rhoddodd ei gefnogaeth i ddatblygu Strategaeth Iechyd Ryngwladol i Gymru, sy’n helpu i greu dull cydlynol o fynd ati i wneud y gwaith hwn yn y GIG ac yn y gymuned iechyd ehangach yng Nghymru. Arweiniodd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth â Chongquing, cytundeb ym maes iechyd cyhoeddus a gofal sylfaenol sydd â’r nod o rannu gwybodaeth ac arloesedd mewn iechyd, gan greu cysylltiad rhwng Caerdydd a Phrifysgol Tsieineeg Hong Kong a Chongquing.
Dywedodd Dr Jewell:
"Bu’n fraint enfawr cael bod yn Brif Swyddog Meddygol Cymru. Pan gefais fy mhenodi, dywedais mai am bum mlynedd y byddwn yn gwneud y swydd, felly rwy’n teimlo mai dyma’r adeg iawn imi symud ymlaen.
"Fe hoffwn i ddiolch i’r holl staff sydd wedi fy nghefnogi yn ystod fy nghyfnod yn y swydd. Rwy’n falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn ystod y cyfnod hwn, ac mae’r staff hynny wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant.
"Rwy’n arbennig o falch bod iechyd y cyhoedd yn cael lle mwy blaenllaw nag erioed o’r blaen yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
"Yn arbennig, wrth ailstrwythuro’r GIG, gwelwyd penodi Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd ym mhob sefydliad, ac mae creu Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod diogelu a hybu iechyd ac atal afiechyd yn elfennau hanfodol ar gyfer Cymru iach a chynaliadwy.
"Mae strategaethau megis Ein Dyfodol Iach hefyd wedi gosod y sylfeini i’r GIG allu rhoi mwy o bwyslais ar atal a hybu, a chanolbwyntio ar wneud y GIG yn wasanaeth ‘iechyd da’ yn hytrach na gwasanaeth ar gyfer afiechyd. Dim ond trwy ganolbwyntio ar atal y bydd modd mynd i’r afael â materion mawr ym maes iechyd y cyhoedd megis smygu, gordewdra ac alcohol, a gwneud y GIG yn fwy effeithlon."
Bydd Dr Jewell yn ymddeol yr haf nesaf, ond mae’n dweud ei fod yn bwriadu dal ati i gyfrannu i faes iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol, yn enwedig yn Affrica Is-Sahara.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae Tony wedi bod ar flaen y gad o safbwynt hybu enw da Cymru fel gwlad sy’n dilyn polisïau blaengar ym maes iechyd y cyhoedd.
"Yn arbennig, ei argymhellion ar amddiffyn plant rhag effeithiau smygu oedd y prif reswm y cynigiais i y dylid cyflwyno deddfwriaeth os na fyddwn yn llwyddo i sicrhau gostyngiad pellach mewn lefelau smygu.
"Rydw i wastad wedi bod yn ddiolchgar iawn am gyngor Tony, ac fe hoffwn i ddymuno pob hwyl iddo yn y dyfodol.
"Dywedodd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, a Phrif Weithredwr GIG Cymru:
"Bu’n bleser ac yn fraint cael gweithio gyda Tony. Mae ei ymrwymiad i’w broffesiwn yn cael ei adlewyrchu gan y lle amlwg a roddir i iechyd y cyhoedd ar draws y GIG. Bydd yn anodd rhagori ar ei gyfraniad."











