Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddwyd newidiadau i gynllun bwrsari'r GIG yn Lloegr. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried yn fanwl oblygiadau’r newidiadau yn Lloegr mewn perthynas â’r system fwrsari yng Nghymru, a’u trafod â’r rhanddeiliaid perthnasol.
Penderfynwyd rhoi’r trefniadau canlynol ar waith yng Nghymru o fis Medi 2012, i gyd-fynd â’r trefniadau yn Lloegr:
- Bydd myfyrwyr newydd yn cael grant gwerth £1,000 nad yw’n dibynnu ar brawf modd
- Cynigir bwrsari gwerth hyd at £4,395 sy’n dibynnu ar brawf modd
- Mynediad at gymorth ychwanegol sef benthyciad cynhaliaeth gwerth hyd at £2,324. (Bydd y benthyciad ar raddfa is, sef hyd at £1,811 ym mlwyddyn olaf eu cwrs).
Yn ogystal â’r bwrsari sylfaenol, caiff myfyrwyr geisio am nifer o lwfansau eraill os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Lwfansau yw’r rhain ar gyfer rhoi cymorth i fyfyrwyr anabl ac i fyfyrwyr sydd â phlant neu oedolion dibynnol. Ni fydd y lwfansau hyn yn newid, a byddan nhw’n parhau yn unol â’r trefniadau presennol. Bydd y GIG yn dal i dalu’r holl ffioedd ar gyfer cyrsiau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
“Mae mor bwysig rhoi cymorth fforddiadwy a theg i fyfyrwyr sydd am ddilyn hyfforddiant i weithio yn y GIG yng Nghymru.”
“Mae’r trefniadau newydd yn golygu bod myfyrwyr gofal iechyd i gyd yn cael eu trin yr un fath. Bydd y cymorth mwyaf yn cael ei gynnig i’r rheini sydd ar yr incwm isaf.”
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews:
“Rydyn ni’n credu’n gryf y dylai potensial unigolyn i elwa ar addysg olygu bod yr addysg honno ar gael iddo. Ni ddylai ei gyfleoedd ddibynnu ar yr hyn y mae’n gallu talu. Mae’r cymorth yr ydyn ni’n ei gynnig i fyfyrwyr sydd am ddilyn hyfforddiant mewn iechyd er mwyn gweithio i’r GIG yng Nghymru yn enghraifft glir o’r ymrwymiad hwn.”











