Mae Llywodraeth Cymru yn helpu’r GIG yng Nghymru i redeg ymgyrch gyda phosteri i dynnu sylw at ei bolisi dim goddefgarwch tuag at ymosodiadau ar weithwyr gofal sylfaenol, fel fferyllwyr, meddygon teulu a’u staff. Er bod y neges yn cyfeirio at weithwyr gofal sylfaenol yn bennaf, mae’r Gweinidog Iechyd yn rhybuddio’r rheini sy’n dathlu y bydd unrhyw un sy’n ymddwyn yn ymosodol tuag at staff y GIG yn wynebu grym y gyfraith.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
“Ers 2009, mae Llywodraeth Cymru, y GIG, yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi bod yn cydweithio i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad treisgar neu ymosodol yn erbyn gweithwyr iechyd.
“Hefyd, rydyn ni wedi gweithredu i gefnogi staff sy’n dioddef trais neu unrhyw fath o ymosodiadau, gan gymryd camau yn erbyn y rheini sy’n gyfrifol. Yn y 18 mis ers mis Ebrill 2010, gwelwyd bron i 200 o erlyniadau llwyddiannus. Mae hynny’n dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr erlyniadau, a oedd mewn ffigurau sengl tan yn ddiweddar.”
Mae posteri’r ymgyrch yn ei gwneud yn glir i’r cyhoedd nad yw’n dderbyniol ymddwyn yn dreisgar ac yn ymosodol tuag at weithwyr gofal iechyd. Anogir fferyllwyr a meddygfeydd i arddangos y posteri hyn mewn lle amlwg i atgoffa’r bobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau y byddan nhw’n cael eu herlyn os byddant yn ymddwyn yn dreisgar.
Dywedodd Lesley Griffiths hefyd:
“Mae rhai pobl yn dweud y bydd dau ddydd Gwener Du eleni. Dw i’n annog pobl i fod yn gyfrifol wrth yfed. Os oes angen help meddygol arnoch dros gyfnod y Nadolig, cofiwch Ddewis yn Ddoeth - gan ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch y driniaeth sydd ei hangen. Os oes rhaid galw’r gwasanaethau brys neu fynd i adran damweiniau ac achosion brys, cofiwch, os byddwch yn ymddwyn yn ymosodol tuag at y staff ymroddedig a diwyd, bydd cosbau llym am wneud hynny. Gan ddymuno Nadolig Llawen a diogel i chi.”











