Mewn neges at staff a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw, dywedodd y Gweinidog:
"Pan gefais fy mhenodi’n Weinidog Iechyd ym mis Mai, fe anfonais neges at staff y GIG i ddweud pa mor falch oeddwn i o gael y swydd. Wrth i’r flwyddyn dynnu tua’i therfyn, rwy’n dal i deimlo’r anrhydedd hwnnw.
"Wrth gael fy mhenodi, fe ymrwymais i gwrdd â staff y GIG ar draws Cymru. Ers hynny, rydw i wedi ymweld â thros 40 o safleoedd y GIG, ac mae medr, ymrwymiad ac ymroddiad y staff i gynnig y gofal gorau posibl i gleifion yn gwneud argraff arnaf bob tro.
"Does mo’r fath beth â blwyddyn dawel yn y GIG a doedd 2011 yn ddim gwahanol.
"Rydyn ni’n gwneud cynnydd gwirioneddol o ran ansawdd gofal, gyda gostyngiadau yn nifer yr heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd a chael gwared ar friwiau pwyso. Mae’r amseroedd aros ambiwlansys wedi rhagori ar y targed am naw mis yn olynol. Mae’r gofal strôc yn gwella’n sylweddol, gyda mwy o gleifion yn derbyn gofal arbenigol yn gyflymach nag erioed o’r blaen.
"Eleni, ar y cyd â staff y GIG, fe wnaethom ddatblygu ein gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer GIG Cymru, Law yn Llaw at Iechyd. Mae’r weledigaeth yn adeiladu ar gyflawniadau fel y rhain a hefyd yn cynnig trywydd ar gyfer gwella gwasanaethau, yn seiliedig ar wasanaethau cymunedol a gwneud atal afiechyd, ansawdd a thryloywder yn ganolog i ofal iechyd.
"Yn ystod 2012 bydd mwy o waith yn datblygu o’r weledigaeth er mwyn cynnig gwell iechyd i bawb, ei gwneud yn haws cael gafael ar wasanaethau, cynnig gofal o ansawdd gwell a rhoi gwell gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion. Byddwn yn gweld cynigion i ddarparu mwy o wasanaethau yn agosach at gartrefi’r cleifion a datblygu canolfannau rhagoriaeth arbenigol, fel sy’n cael ei amlinellu yn Law yn Llaw at Iechyd.
"Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb yng Nghymru wrth ddweud fy mod yn dymuno Nadolig Llawn i staff y GIG. Wrth i ni edrych ymlaen at ychydig ddyddiau o seibiant dros y Nadolig, rydyn ni’n cofio ac yn gwerthfawrogi’r ffaith y bydd miloedd o staff y GIG yn parhau i ofalu am gleifion . Diolch i chi."











