Mae Gweinidogion Iechyd y DU am weld pob gweithgynhyrchwr a manwerthwr bwyd yn defnyddio negeseuon cyson ar flaen pecynnau er mwyn dangos faint o fraster, halen, siwgr ac egni sydd yn eu cynnyrch.
Mae tua 80% o gynnyrch bwyd a werthir yn y DU yn arddangos rhywfaint o wybodaeth ar labeli ar flaen pecynnau. Fodd bynnag, mae gwahanol fanwerthwyr a gweithgynhyrchwyr yn defnyddio gwahanol labeli a gall hyn ddrysu defnyddwyr.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Rwy’n awyddus i weithio gydag eraill ledled y DU i helpu pobl i wneud dewisiadau iach. Byddai un system labelu, ar bob cynnyrch, yn gymorth i ddefnyddwyr o ran cymharu’r wybodaeth am y maeth yn y bwyd y maen nhw’n ei brynu.
“Bydd ymatebion o Gymru yn help i lywio’r drafodaeth am sut i greu system labelu bwyd gyson ar draws y DU.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd pobl yng Nghymru ac annog ffordd iach o fyw a bydd yr ymgynghoriad hwn yn chwarae rôl yn y gwaith o gefnogi’r ystod o fentrau sydd gennym ar waith.”
Byddai labeli bwyd cyson yn gymorth i sawl menter Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rhaglen MEND (sef ‘Mind, Exercise Nutrition... Do it!’), sy’n hybu ffordd iach o fyw ymysg plant sydd dros bwysau iach. Caiff plant fynd ar deithiau o archfarchnadoedd er mwyn iddynt ddeall labeli bwyd a sut i wneud dewisiadau iachach.
Mae’r Cynllun Hyfforddiant Capasiti Deietetig yn cefnogi deietegyddion i hyfforddi a datblygu gweithwyr cymdeithasol, addysgwyr cymheiriaid a gwirfoddolwyr sy’n gweithio o fewn cymunedau i annog bwyta’n iach.
Newid am Oes yw ymgyrch y Llywodraeth i wella bywydau teuluoedd. Mae’n annog cyfnewid bwydydd a diodydd sydd â llawer o siwgr am bethau eraill sydd â llai o siwgr neu sydd heb siwgr o gwbwl. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar faint y dylid bwyta ac yn annog plant ac oedolion i fwyta prydau sy’n addas iddyn nhw o ran maint.