Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Arwr rygbi yn helpu prif feddyg Cymru i ‘drosi’ iechyd a lles gweithwyr

Mae’r Prif Swyddog Meddygol, Dr Tony Jewell wedi ymuno â’r arwr rygbi Paul Thorburn yn Stadiwm y Mileniwm i hyrwyddo Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru.
Dydd Mawrth 14 Chwefror 2012

Erbyn hyn mae Paul, cyn gefnwr a chapten tîm Cymru, yn ymgynghorydd datblygu busnes allanol ac mae’n cymeradwyo Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru, gan ei fod yn gweld â’i lygaid ei hun sut a gall busnesau fod ar eu hennill wrth ofalu am eu gweithlu.

Fe wnaeth Paul, sy’n enwog am y gic lwyddiannus bellaf mewn gêm brawf ryngwladol, sef 70 llath 8 modfedd a hanner (64.2m) yn erbyn yr Alban, ymuno â Dr Tony Jewell i annog pobl i ddefnyddio’r Llinell Gymorth Iechyd ar Waith ddydd Mawrth 14 Chwefror.

Dywedodd,

“Nid yw perchnogion a rheolwyr busnesau bach yn gallu dibynnu ar adrannau iechyd galwedigaethol mawr i’w helpu gydag iechyd eu gweithlu.

“Mae’r Llinell Gymorth Iechyd ar Waith yn adnodd pwysig i fusnesau bach. Drwy ei defnyddio, gallant ddangos i’w staff eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hynny’n codi ysbryd y staff, a gall arwain at wella cynhyrchiant.

“Rwy’n falch o gymeradwyo gwasanaeth sy’n annog ac yn ysgogi busnesau a gweithwyr i ganolbwyntio ar bobl sy’n wynebu mater pwysig iechyd yn y gwaith, a’u cefnogi.”

Dywedodd Dr Tony Jewell,

“Mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd yn y gweithle ‘Cymru Iach ar Waith’, yn hyrwyddo’r cysyniad o ‘waith da’. Rydym ni’n gwybod y bydd gan ‘gyflogwyr da’ weithlu hapus, iach a chynhyrchiol, ac mae hynny’n cyfrannu nid yn unig at yr ymdrechion ehangach i wella iechyd ein poblogaeth sydd o oedran gwaith, ond hefyd at wella cyfoeth Cymru.  

“Gwasanaeth rhad ac am ddim yw Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru, ac mae’n cynnig cyngor dros y ffôn ar faterion iechyd a gwaith i sefydliadau a busnesau bach a’u staff. Mae’r Llinell Gymorth yn rhoi cyngor cyfrinachol a phroffesiynol, yn rhad ac am ddim, ar unrhyw fater galwedigaethol neu gorfforol, neu unrhyw fater iechyd meddwl. Gall meddygon teulu ddefnyddio’r gwasanaeth hefyd i gael cyngor a chefnogaeth ar faterion sy’n effeithio ar gleifion unigol gan gynnwys y Datganiad o Ffitrwydd i Weithio (Nodyn Ffitrwydd).”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Llinell Gymorth Iechyd ar Waith Cymru

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 14 Chwefror 2012 Cymru iachach Gwella iechyd Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i