Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol wrthi’n drafftio cynigion ar gyfer dyfodol y gwasanaethau er mwyn sicrhau bod GIG Cymru’n ymateb i bob math o heriau gwahanol o boblogaeth sy’n heneiddio i broblem recriwtio sy’n effeithio ar y DU gyfan.
Dywedodd Lesley Griffiths,
“Rwy’n awyddus i sicrhau pawb sy’n bryderus nad oes gen i na Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda unrhyw gynlluniau i gyfyngu ar wasanaethau na chau unrhyw ysbytai cyffredinol dosbarth yn unrhyw le o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae hynny’n cynnwys Ysbyty’r Tywysog Philip.
“Yn y cyfarfodydd rheolaidd rhyngof i a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, cefais sicrwydd mai bwriad y Bwrdd yw gwella’r gwasanaethau i gleifion, yn hytrach na’u cyfyngu.
“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud wrthyf nad oes unrhyw gynlluniau ar droed i newid Ysbyty’r Tywysog Philip, ac rwy’n falch o glywed ei fod yn ystyried ehangu’r Uned Gofal y Fron a’r gwasanaethau Orthopedig Dewisol a darparu Canolfan Rhagoriaeth Adsefydlu Arbenigol.
“Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel dda wrthi’n ymgysylltu â’r staff ac â’r boblogaeth leol i baratoi cynigion ar gyfer newid y gwasanaethau, a bydd y cynigion hynny’n cael eu rhoi gerbron mewn ymgynghoriad cyhoeddus dros y misoedd nesaf.
“Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, nid yw aros yn ei unfan yn opsiwn i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Mae Adroddiad Wanless 2003 a Chomisiwn Bevan wedi datgan yn glir bod angen i’r GIG newid er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’r dyfodol yn ddiogel, yn gynaliadwy ac o’r ansawdd orau posibl.
“Bydd pob cynllun a gynigir gan Fyrddau iechyd Cymru’n destun craffu manwl, nid yn unig gan glinigwyr annibynnol ar y Fforwm Clinigol Cenedlaethol ond hefyd gan Lywodraeth Cymru ac, yn bwysicaf oll, gan y cyhoedd. Mae’n hollbwysig bod pobl yn talu sylw i’r cynlluniau ac yn cyfrannu atynt dros y misoedd nesaf.”











