Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, wedi cymeradwyo gwario £9.489 miliwn ar uned adsefydlu arbenigol a fydd yn cynnwys Canolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar newydd. Mae hyn yn ychwanegol at £5.875 miliwn ar gyfer ailddatblygu adran achosion brys yr ysbyty.
Bydd yr Uned Adsefydlu Arbenigol Gyfun newydd hefyd yn cynnwys Uned Peirianneg Adsefydlu (REU), Adran Orthoteg/Cyfarpar Llawfeddygol a’r Adran Electroneg Feddygol.
Y tu mewn i’r Uned bydd amrywiaeth o ystafelloedd ymgynghori, archwilio a thriniaeth, ystafelloedd gosod aelodau artiffisial, cyfarpar a chadeiriau olwyn, cyfleusterau gweithgynhyrchu aelodau artiffisial a chadeiriau olwyn arbenigol, campfa, gweithdai a chyfleusterau gweinyddu ac ardaloedd storio offer.
Bydd modd trin mwy o gleifion yn sgil buddsoddi yn yr adran achosion brys, gan ddarparu gwell ardal frysbennu (yn cynnwys dwy ystafell frysbennu ychwanegol) ac ardal i gynnal asesiad cyflym o bobl sy’n cyrraedd mewn ambiwlans. Bydd hefyd yn cynnwys adran damweiniau ac achosion brys fwy i blant gyda’i hystafell aros ei hun a derbynfa gyffredinol fwy.
Mae yna hefyd well mynedfa i ambiwlansys sy’n golygu gwell llif cleifion, ac mae’r gwelliannau i gynllun y tu mewn yn golygu y bydd yn haws cyflwyno gwasanaethau damweiniau ac achosion brys cymhleth i boblogaeth yr ardal.
Meddai Lesley Griffiths:
“Mae’n amlwg nad oes digon o le yn yr Adran Achosion Brys brysur yn Ysbyty Treforys. Bydd 300 o gleifion, ar gyfartaledd, yn mynychu bob dydd, sy’n cyfateb i 100,000 o bobl yn mynychu bob blwyddyn, felly mae’n bwysig fod cyfleusterau yn cael eu gwella i fodloni’r galw.
“Mae’r buddsoddiad yma’n caniatáu gwelliannau yn yr adeilad ei hun. Bydd ehangu’r ystafelloedd aros, yr ardal arsylwi newydd a’r fynedfa well i ambiwlansys i gyd yn helpu’r staff ymroddedig a gweithgar i roi gwell gwasanaeth i’w cleifion.
"Bydd yr Uned Adsefydlu Arbenigol Gyfun newydd yn disodli’r hen adeiladau ac yn golygu y bydd modd lleoli gwasanaethau ategol o dan un to, gan wella hygyrchedd, urddas a phreifatrwydd yn fawr i gleifion anabl ac agored i niwed.”
Dywedodd Win Griffiths, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol ABM:
“Rydym wrth ein bodd gyda’r buddsoddiad pwysig iawn yma yn Ysbyty Treforys. Bydd yn caniatáu i ni ddarparu cyfleusterau modern sydd wedi’u cynllunio’n dda i gleifion a staff.”











