Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dathlu nyrsys a bydwragedd yng Nghymru

Cafwyd dathliad o ragoriaeth ym maes nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru heddiw (dydd Iau 15 Mawrth) yng Nghynhadledd Arddangos flynyddol gyntaf Prif Swyddog Nyrsio Cymru.
Dydd Llun 19 Mawrth 2012

Defnyddiodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, yr Athro Jean White, yr achlysur i dynnu sylw at bwysigrwydd profiad y claf, a dywedodd fod gwrando ar gleifion yn helpu i wella gofal. Roedd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths yn y gynhadledd hefyd, a diolchodd i aelodau o’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth am eu hymroddiad i gleifion a’u hymrwymiad i ddarparu gofal o’r safon uchaf.

Denodd y Gynhadledd Arddangos gynulleidfa o dros 300 o ymarferwyr o wahanol broffesiynau, gan gynnwys nyrsys cofrestredig, bydwragedd, nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol, gweithwyr cymorth gofal iechyd, myfyrwyr, academyddion a chynrychiolwyr yr undebau llafur proffesiynol.

Dywedodd Jean White:

“Roeddwn i’n awyddus i fy nghynhadledd gyntaf roi’r cyfle i staff rheng flaen glywed am yr arferion gorau a’r dulliau diweddaraf o ddarparu gofal, a’u rhannu. Mae yna arferion rhagorol i’w gweld ym mhob rhan o Gymru ond mae’n her sicrhau bod y gofal gorau yn ymwreiddio ym mhobman. Mae’n hanfodol cynnal digwyddiadau lle gall staff wrando, dysgu a thrafod materion gofal iechyd bob dydd er mwyn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau a sicrhau bod pawb sy’n defnyddio GIG Cymru yn derbyn y gofal gorau posibl.”

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Fel y proffesiwn mwyaf o fewn y Gwasanaeth Iechyd, mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar brofiadau nyrsys er mwyn i ni gyflawni ein hymrwymiad i wneud y GIG yng Nghymru hyd yn oed yn well.

“Nyrsys sy’n treulio’r cyfnod hwyaf gyda chleifion. Maen nhw’n diffinio profiad y claf o ofal, gan egluro, rhoi gwybodaeth, cysuro a chefnogi pobl a’u teuluoedd drwy gydol eu triniaeth. Maen nhw mewn sefyllfa unigryw i ddeall cleifion a’u teuluoedd a siarad ar eu rhan, ac mae’n addas iawn bod Cynhadledd Arddangos gyntaf Prif Swyddog Nyrsio Cymru yn ddathliad o’r proffesiwn.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Prif Swyddog Nyrsio

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 19 Mawrth 2012 Cymru iachach Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i