Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweld meddyg teulu dod yn haws

Y Gweinidog yn egluro sut mae ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu yn llwyddo wrth i ffigurau newydd ddangos ei bod yn haws gweld meddyg teulu erbyn hyn.
Dydd Mercher 28 Mawrth 2012

Cyhoeddwyd ffigurau yn dangos oriau agor meddygfeydd ar draws Cymru yn ystod y ddwy flynedd diweddaf (2010 a 2011), a hynny am y tro cyntaf erioed. Yn ôl Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd, mae’r rhain yn dangos ei bod bellach yn haws cael gweld meddyg teulu.

Ychydig iawn o feddygfeydd sy’n cau am hanner diwrnod erbyn hyn.

Dywedodd hefyd y bydd disgwyl i feddygfeydd gynnig mwy o apwyntiadau yn gynnar ac yn hwyr yn y dydd, er mwyn ei gwneud yn haws i bobl sy’n gweithio weld y meddyg.

Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw:

  • Roedd 149 o feddygfeydd yng Nghymru (31 y cant) ar agor drwy’r dydd yn ystod yr oriau craidd, sef rhwng 8 y bore a 6.30 yr hwyr yn 2011 – cynnydd o 12 y cant o 2010.
  • Roedd 229 o feddygfeydd (48 y cant) ar agor am 95 y cant neu fwy o’r oriau craidd – 11 pwynt canran yn uwch nag yn 2010.
  • Roedd 12 y cant o feddygfeydd ar agor yn ystod oriau ychwanegol yn 2011 – cynnydd o 3 y cant ar y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 19 y cant o feddygfeydd ar gau am hanner diwrnod ar un diwrnod neu fwy bob wythnos yn 2011 – 6 y cant yn is na’r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Lesley Griffiths:

“Er bod meddygon teulu yn gweithio’n galed yn eu bröydd i sicrhau eu bod yn ateb gofynion cleifion, mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i’w gwneud yn haws i bobl weld eu meddyg teulu.

“Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod 31 y cant o feddygfeydd ar agor drwy’r dydd, bob dydd – cynnydd o 12 y cant ar ffigurau 2010. Mae llai o feddygfeydd yn cau am hanner diwrnod ac mae mwy ohonynt yn cynnig apwyntiadau cyn 8 y bore ac ar ôl 6.30 yr hwyr. 

“Er hynny, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod meddygfeydd ar agor yn hwy fyth.

“Erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd llai fyth o feddygfeydd yn cau am hanner diwrnod, a bydd disgwyl i fwy o feddygfeydd gynnig apwyntiadau yn gynnar yn y bore neu fin nos, hyd at 6.30 yr hwyr, er mwyn rhoi gwasanaeth mwy hwylus i bobl sy’n gweithio.”

Dywedodd Mrs Griffiths na fyddai hyn yn costio’r un geiniog yn fwy gan y byddai modd ei gyflawni o fewn contract presennol meddygon teulu, trwy ailddosbarthu apwyntiadau yn ystod oriau craidd eu contractau. 

O fis Ebrill 2013, ymestyn oriau agor a chynnig mwy o apwyntiadau ar ôl 6.30pm fydd y nod. Mae’r syniad o gynnig mwy o apwyntiadau yn gynnar yn y bore hefyd yn derbyn sylw, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae’n rhaid i bobl deithio’n bell i’r gwaith. Mae adolygiad ar y gweill hefyd i archwilio’r posibilrwydd o agor meddygfeydd ar fore Sadwrn.       

Dywedodd Mrs Griffiths fod cyfrifoldeb ar gleifion i ddod i’w hapwyntiadau.

“Rwy’n gwybod nad yw rhai cleifion yn dod i’w hapwyntiadau, er iddyn nhw eu trefnu. Mae cyfrifoldeb ar gleifion i ganslo apwyntiadau os nad ydyn nhw’n gallu dod, fel bod modd eu cynnig i bobl eraill sydd eisiau gweld y meddyg teulu. Mae’n hollbwysig nad yw amser gwerthfawr meddygon teulu yn cael ei wastraffu ac rwy’n gwbl gefnogol i’r camau y mae’r Byrddau Iechyd a’r meddygfeydd yn eu cymryd i wneud yn si?r nad yw hyn yn digwydd.”  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Iechyd a gofal cymdeithasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 28 Mawrth 2012 Cymru iachach Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i