Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Pum mlynedd ddi-fwg i fannau cyhoeddus yng Nghymru

Y penwythnos hwn (2 Ebrill), bydd pum mlynedd ers i Gymru wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, gan warchod gweithwyr a’r cyhoedd rhag peryglon mwg ail-law.
Dydd Gwener 30 Mawrth 2012

Mae’r gwaharddiad wedi arwain at ostyngiad sydyn yn nifer yr oedolion nad ydynt yn smygu eu hunain ond sy’n dweud eu bod yn gorfod anadlu mwg pobl eraill yn rheolaidd. Mae’r cyfraddau wedi gostwng o 66% yn 2005/6 i 42% yn 2007, sef y flwyddyn pryd y daeth y gwaharddiad i rym. Mae’r ffigurau mwyaf diweddar yn dweud mai 33% sy’n gorfod anadlu mwg ail-law yn rheolaidd.

Meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd,

“Roedd Cymru’n arwain y ffordd o ran pleidleisio i wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus, a dilynwyd ni gan weddill y Deyrnas Unedig.

“Yr effaith a welwyd yn syth wedi’r gwaharddiad oedd gostyngiad sydyn yn nifer yr oedolion sydd ddim yn smygu eu hunain ond sy’n gorfod anadlu mwg pobl eraill, ac mae’r ffigyrau diweddar yn awgrymu bod y gostyngiad cyntaf hwn wedi bod yn dueddiad i’w groesawu.

“Er ein bod yn parchu hawliau oedolion sy’n dewis smygu, rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod y rhai sydd o’u cwmpas rhag peryglon mwg ail-law. Yn ddiweddar iawn, fe wnaethon ni lansio ein hymgyrch Cychwyn Iach er mwyn ceisio cael pobl i beidio â smygu yn y car pan fo plant gyda nhw, ac rydw i wedi mynegi fy mwriad i ystyried deddfwriaeth yn hyn o beth os nad yw’r ymgyrch yn ddigon effeithiol.”

Mae cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth hefyd wedi bod yn dda. Mae adroddiadau awdurdodau lleol yng Nghymru yn dangos lefelau cydymffurfio sydd rhyw 99 y cant, ac mae hyn yn debyg i adroddiadau o Weriniaeth Iwerddon a gwledydd eraill y DU.

Meddai Dr Jewell,

“Mae anadlu mwg pobl eraill yn achosi canser yr ysgyfaint, clefyd y galon a chlefydau anadlol eraill mewn oedolion sydd ddim yn smygu.

“Mae’r gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus wedi llwyddo i warchod gweithwyr a’r cyhoedd rhag y peryglon difrifol hyn.

“Mae’r ymchwil yn rhoi tystiolaeth glir fod llai yn gorfod anadlu mwg tybaco yn yr aer, yn enwedig mewn tafarnau, clybiau, bariau ac yn y gwaith. Yn galonogol, mae astudiaethau wedi dangos nad oes unrhyw dystiolaeth fod pobl yn smygu mwy gartref o’r herwydd.

“Un o sgil-effeithiau cadarnhaol eraill y gwaharddiad oedd annog smygwyr i roi’r gorau iddi. Pan ddaeth y ddeddfwriaeth, bu 20 y cant o gynnydd yn nifer y bobl a fu mewn cysylltiad â gwasanaeth Dim Smygu Cymru, ac mae’r cynnydd hwn wedi parhau.

“Mae 70% o smygwyr yn dweud y byddent yn hoffi rhoi’r gorau i smygu, a’r llynedd, fe wnaeth 38% roi cynnig ar hynny, yn bennaf am resymau iechyd. Gwyddom ei bod yn anodd rhoi’r gorau iddi, ond mae cymorth i’w gael.”

Gall Dim Smygu Cymru (0800 085 2219) roi cefnogaeth i unigolion neu i grwpiau. Mae’r Llinell Gymorth i Smygwyr (0800 169 0 169) hefyd wrth law i gynnig gwybodaeth sy’n gyfeillgar ac yn hawdd ei deall am ffyrdd i roi’r gorau iddi os ydych yn meddwl am y peth ond heb fod yn siŵr sut i groesi’r bont.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ysmygu

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 30 Mawrth 2012 Gwella iechyd Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i