Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwobrau i weithleoedd iach trwy Gymru

Mae cyflogwyr o bob rhan o Gymru wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith yn cynnal a gwella iechyd a lles eu staff yn y gweithle.
Dydd Gwener 30 Mawrth 2012

Mae gwobrau Cymru Iach ar Waith yn cynnwys y Safon Iechyd Corfforaethol a Gwobr Iechyd y Gweithle Bach.  

Y Safon Iechyd Corfforaethol yw’r nod ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle i fusnesau a sefydliadau sy’n cyflogi mwy na 50 o staff; mae Gwobr Iechyd y Gweithle Bach ar gyfer gweithleoedd llai.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf.

Meddai Lesley Griffiths:

“Mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu ymdrechion yr unigolion ymroddgar yn y busnesau a’r sefydliadau hyn i osod iechyd wrth galon eu gwaith.  

“Mae’n galonogol bod llawer o gyflogwyr yn cydnabod pwysigrwydd gweithlu iach, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd heriol hwn. Maent yn ysbrydoliaeth i gyflogwyr eraill, a fydd, gobeithio, yn dilyn ôl eu traed.”

Meddai Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

“Mae Cymru Iach ar Waith, sef rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd yn y gweithle, yn hyrwyddo’r syniad o ‘waith da’. Gwyddom y bydd gan ‘gyflogwyr da’ weithlu sy’n fodlon, yn iach ac yn gynhyrchiol, ac mae hyn yn cyfrannu at yr ymdrechion eangach i wella iechyd ein poblogaeth sydd o oedran gweithio. Mae hefyd yn cyfrannu at gyfoeth Cymru.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Prif Swyddog Meddygol Cymru

Gwefannau

Cymru Iach ar Waith

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 30 Mawrth 2012 Cymru iachach Gwella iechyd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i