Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig (DU) i gyflwyno’r polisi. Dilynodd Gogledd Iwerddon yr esiampl yn 2010, a gwnaeth yr Alban yr un fath yn 2011.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cefnogwyr yn canmol y system o hyd, fel un sy’n helpu i fynd i’r afael â’r iechyd gwael a gafodd ei etifeddu fel canlyniad i’r cyfnod diwydiannol yng Nghymru.
Mae’r ystadegau’n dangos cynnydd yn y nifer o gyffuriau sydd ar gael ar bresgripsiwn ers cael gwared ar y ffioedd, er enghraifft, cyffuriau sy’n lleddfu rhai afiechydon cardiofasgwlaidd ac anadlol. Yn y gorffennol, nid oedd gan nifer o’r cleifion hyn yr hawl i gael presgripsiynau am ddim. Bellach, mae hyn yn golygu y gall cleifion â chyflyrau cronig gael meddyginiaethau sy’n achub eu bywydau a fyddai wedi bod yn rhy ddrud iddynt o’r blaen.
Dywedodd John Mathias, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Asthma UK Cymru:
“Bum mlynedd ers cyflwyno presgripsiynau am ddim, rydym yn falch bod 314,000 o bobl ag asthma yng Nghymru bellach yn gallu cymryd y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt i reoli eu cyflwr, heb orfod talu amdanynt.
“Mae asthma’n effeithio ar tua 11 y cant o’r boblogaeth sy’n oedolion yng Nghymru. Cyn cyflwyno presgripsiynau am ddim roedd nifer o’r oedolion hyn yn rhoi gwybod i ni am ba mor bryderus yr oeddynt am faich ariannol y ffioedd am feddyginiaethau a allai achub eu bywydau.
“Diolch i’r drefn, mae Cymru wedi achub y blaen ar leihau’r baich hwn ar bobl ag asthma.”
Ychwanegodd Tina Donnelly, Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru:
“Mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru wedi cefnogi’r fenter i roi presgripsiynau’r GIG am ddim i gleifion ac i gleientiaid o’r cychwyn cyntaf.
“Rydym yn gwybod nad oedd pawb yng Nghymru yn gallu fforddio talu am bresgripsiynau cyn pum mlynedd yn ôl. Mae’n hanfodol bod cleifion yn cymryd eu meddyginiaeth ar bresgripsiwn. Mae’r bobl hynny sy’n dioddef o gyflyrau cronig hir dymor, fel clefyd y galon, asthma, arthritis, clefyd Parkinson, a sglerosis ymledol, wedi elwa o’r cynllun hwn.”
Mae cael gwared ar y ffioedd wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gadw at ymrwymiad ei maniffesto i fynd i’r afael â thlodi’r boblogaeth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Pan gyflwynon ni bresgripsiynau am ddim, y feirniadaeth oedd mai gimig ydoedd. Y ffaith amdani yw fod y polisi hwn yn cadw mwy o bobl yn iach ac allan o’r ysbyty, ond hefyd mae wedi cael effaith sylweddol ar y rhai hynny y mae eu hincwm ychydig yn uwch na’r lefel ar gyfer budd-daliadau. Byddai cost lawn presgripsiynau wedi cael effaith niweidiol ac uniongyrchol ar incwm y bobl hynny, o ran y gwahaniaeth rhwng eu hincwm mewn gwaith a’u hincwm ar fudd-daliadau.
“Drwy sicrhau bod meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gael i bawb, rydym wedi cael gwared ar y rhwystr hwn i gael gwaith, gan ganiatáu i bobl reoli eu cyflyrau a lleihau’r nifer o bobl sy’n mynd i’r ysbyty, ac o wneud hynny, leihau’r baich ar y GIG.”











