Mae’r Comisiynydd yn eriolwr ar gyfer pobl hyn ac mae’n darparu gwasanaeth gwybodaeth, eiriolaeth a chymorth i bobl hyn yng Nghymru a’u cynrychiolwyr. Mae gan y Comisiwn bwerau cyfreithiol penodol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymddwyn mewn modd sy’n gydnaws â buddiannau pobl hyn yng Nghymru.
Ers 2008, Sarah yw cyfarwyddwr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru. Yn y swydd honno mae wedi bod yn gyfrifol am drefnu bod gwasanaethau a chymorth yn cael eu darparu ar gyfer y 120,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi colli eu golwg - a’r mwyafrif o’r rheini yn bobl hyn.
Sefydlodd Ms Rochira, sy’n byw yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, y bartneriaeth ar gyfer Strategaeth Olwg Cymru (sy’n rhan o fenter WHO Vision 2020) ac mae’n gadeirydd etholedig ac yn aelod gweithgar o Gynghrair Henoed Cymru. Cyn hynny roedd ganddi fwy na degawd o brofiad ym maes comisiynu iechyd, llywodraethu clinigol a datblygu iechyd ym Mwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili ac Awdurdod Iechyd Gwent.
Meddai Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant:
“Rhaid i ni werthfawrogi ein pobl hyn yn fwy, a mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran. Rhaid i ni herio ystrydebau, agweddau ac arferion annheg a hen ffasiwn sy’n cael effaith andwyol ar bobl hyn.
“Bydd y Comisiynydd newydd yn diffinio ei swydd yn ei ffordd ei hun, ond rwy’n siwr y bydd hi’n llwyddo i gyflawni’r holl amcanion hyn, a rhagor. Rwy’n llongyfarch Sarah ar ei phenodiad ac yn ei chroesawu’n gynnes i’r swydd bwysig hon.
“Hwn yw’r ail benodiad i swydd y Comisiynydd Pobl Hyn ers sefydlu’r rôl yn 2008. Fe hoffwn ddiolch i Ruth Marks MBE, y cyn-Gomisiynydd, am ei gwaith yn sefydlu’r Comisiwn cyntaf ac yn gosod y sylfeini at y dyfodol.”
Meddai Ms Rochira:
"Pleser a braint yw cael fy mhenodi'n Gomisiynydd Pobl Hyn Cymru. Yn fy swydd fel Comisiynydd byddaf yn atebol i bobl hyn ym mhob rhan o Gymru ac rwy'n edrych ymlaen at gael cydweithio â nhw a sicrhau bod eu llais a'u barn yn ganolbwynt i'n gwaith. Mae gennym lawer i fod yn falch ohono yng Nghymru, ond mae llawer o bobl hyn hefyd yn wynebu heriau gwirioneddol – yn enwedig gan fod hwn yn gyfnod anodd i bawb ohonom.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda fy nhîm a gyda'n gilydd i wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl hyn ledled Cymru. Rwyf am i Gymru fod yn lle da i bawb dyfu'n hyn ynddo."











