Mae angen y gwaith er mwyn gwneud yn siŵr fod yr ysbyty yn bodloni’r safonau iechyd a diogelwch diweddaraf, gan gynnwys tynnu’r asbestos a gâi ei ddefnyddio mor aml yn y 1970au i amddiffyn rhag tân.
Bydd cyfle hefyd yn sgil y gwaith adnewyddu i ailddylunio a symud amryw o wasanaethau ac adrannau, fel y gall yr ysbyty ddarparu gwell gofal. Mae’r cynlluniau yn cynnwys ehangu ardal y gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau, a symud yr ardal gofal critigol fel ei bod gerllaw’r theatrau llawdriniaeth.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Rwy’n falch o allu caniatáu i’r Bwrdd Iechyd Lleol fynd at i baratoi cynlluniau manwl ar gyfer y gwaith adnewyddu yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Bydd y cynllun yn gwella amgylchedd gweithio’r staff ac yn darparu gwell gwasanaethau i’r cleifion.
“Mae hwn yn gynllun buddsoddi o bwys. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd, ac mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn dangos yr hyn y gallwn ei wneud er gwaethaf effaith y toriadau ar y gyllideb. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd yn ei flaen.”
Dywedodd Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf:
"Mae hyn yn newyddion cwbl ardderchog. Mae’n ddatganiad mor groyw ag y gellir ei wneud o ymrwymiad i bwysigrwydd Ysbyty’r Tywysog Siart i gymunedau Cwm Taf a’r cyffiniau. Mae angen sicrhau bod y cyfleusterau yn gweddu i’r unfed ganrif ar hugain a bydd y buddsoddiad hwn, ar ben y £85 miliwn yn ystod y tair blynedd diwethaf, yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau rhagorol ar gyfer y dyfodol.”
Mae disgwyl y bydd y cynllun yn derbyn cyfanswm o £107.812 miliwn rhwng 2011-12 a 2018-19.











