Adnewyddwyd y Ganolfan Iechyd yn ddiweddar ac mae’n cynnwys meddygfa a gwasanaethau iechyd cymuned. Prynwyd offer meddygol ychwanegol ar ei chyfer hefyd. Gwnaed y gwelliannau diolch i fwy na £35,000 o arian gan Lywodraeth Cymru a chyfraniadau gan grwpiau cymunedol lleol.
Mae’r grwpiau yn cynnwys Cyfeillion Meddygon Teulu Alun, yr elusen sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan Iechyd ac yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, yn ogystal â changen Llai o’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Cyfrannodd Cyngor Cymuned Llai at y prosiect hefyd. Gwnaed y gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau yn bennaf, er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar bobl oedd yn mynd i’r clinig.
Dywedodd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd:
“Mae gwasanaethau iechyd cymuned o safon uchel, sydd ar gael yn hwylus, wrth wraidd gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer y GIG, a’r allwedd i hyn yw darparu’r amgylchedd iawn.
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o’r ffordd y mae perthynas weithio gref rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol, grwpiau cymunedol a’r Cyngor Cymuned yn dod â manteision i bentref Llai.”