Er 2006, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £363 miliwn mewn prosiectau sydd bellach wedi’u cwblhau, £227 miliwn mewn safleoedd sydd wrthi’n cael eu datblygu, yn ogystal ag ymrwymo i wario £552 miliwn pellach ar brosiectau sydd wrthi’n cael eu cynllunio.
Trigolion Cymru oedd bron i 80% (9,811) o’r gweithlu o 12,318 a gyflogwyd ar y safleoedd hyn.
Yng Nghynhadledd ac Arddangosfa Ystadau Iechyd Cymru 2012 a gynhaliwyd, rhoddodd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd anerchiad i gynulleidfa o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd ystadau, adeiladu ac eiddo. Cyflogwyd amryw o’r rhain ar gynlluniau oedd yn gysylltiedig â’r buddsoddiadau.
Wrth ganmol y ffordd y cyflawnwyd y prosiectau cyfalaf, a’r ffaith fod bron pob un ohonynt wedi’i gwblhau mewn pryd, o fewn y gyllideb ac i safon uchel o ran saernïaeth, dywedodd y Gweinidog Iechyd:
“Rydym yn darparu gofal iechyd i 3 miliwn o bobl yma yng Nghymru. Bydd cleifion yn cysylltu â GIG Cymru fwy nag 20 miliwn gwaith bob blwyddyn, a bydd 80% o’r cyswllt hwnnw’n digwydd y tu allan i’r ysbyty, mewn llefydd fel y feddygfa neu wasanaeth iechyd yn y gymuned.
“Mae GIG Cymru hefyd yn cyflogi dros 80,000 o bobl yn uniongyrchol, sy’n golygu mai’r gwasanaeth iechyd yw cyflogwr mwyaf Cymru.
“Dyna pam ei bod yn bwysig fod yr adeiladau a’r offer priodol yn addas at eu diben ac o fewn cyrraedd hwylus i weithwyr iechyd a chleifion fel ei gilydd.
“Hyd yn oed pan fo’r esgid yn gwasgu, rydym ni fel Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â buddsoddi mewn adeiladau, technoleg a gwasanaethau newydd er mwyn helpu’r GIG i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’w gleifion yng Nghymru.”











