Diben y cyllid hwn yw cefnogi projectau sy’n bodoli eisoes ac mae’n cynnwys £880,000 ar gyfer cynnal arweinwyr a chynlluniau gweithredu ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol.
Bydd y cyllid hwn yn parhau’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei rhoi i’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n ariannu cydlynydd awtistiaeth cenedlaethol amser llawn i redeg y Rhwydwaith Dysgu a Gwella (LIN).
Hefyd, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog fod cytundeb Cennad Cyflogaeth ASD Cymru wedi’i estyn am 12 mis arall, tan fis Mawrth 2013. Mae Robert Lloyd Griffiths wedi bod yn y rôl ers mis Awst 2010. Dyma’r rôl gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig ac mae’n creu cysylltiadau gyda busnesau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o awtistiaeth a chynyddu cyfleoedd i bobl â’r anhwylder.
Bydd cynghorydd arbenigol Llywodraeth Cymru ar awtistiaeth, Hugh Morgan OBE, hefyd yn parhau yn ei rôl eleni gan gynnig arweiniad wrth fwrw ymlaen â’r Cynllun Gweithredu Strategol ASD.
Mae Gweinidogion wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn nes ymlaen eleni ar sut y dylid bwrw ymlaen â Chynllun Gweithredu ASD Llywodraeth y Cynulliad hyd at 2015. Bydd tri digwyddiad ymgynghori’n rhoi cyfle i bobl ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr ddweud beth sy’n bwysig iddyn nhw a beth allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau nhw.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Mae’r Cyllid hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i weithio gyda phobl ag awtistiaeth er mwyn gwella eu bywydau a’u cyfleoedd mewn bywyd. I gyflawni hyn, byddwn yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd.
“Pan lansiwyd Cynllun Gweithredu Strategol ASD yn 2008, roedd ar flaen y gad yn fyd eang. Edrychaf ymlaen at glywed barn pobl ar y cyfeiriad y dylem ei gymryd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod Cymru’n parhau ar flaen y gad o ran y mater hwn.”











