Cafodd Dr Hussey ei eni yng Ngogledd Cymru, lle gwnaeth hi fyw tan iddi fynd i brifysgol. Mae Dr Hussey wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Iechyd y Cyhoedd GIG Gogledd-Orllewin Lloegr ers 2006 ac ar hyn o bryd mae hi ar secondiad gyda Thîm Pontio Iechyd y Cyhoedd Lloegr a’r Adran Iechyd lle mae hi’n arwain y gwaith o drosglwyddo iechyd y cyhoedd i lywodraeth leol.
Mae gan Ruth brofiad helaeth ar draws iechyd y cyhoedd ac arweiniad clinigol. Ymhlith ei swyddi blaenorol mae Cyfarwyddwr Strategaeth Iechyd / Cyfarwyddwr Meddygol yn Awdurdod Iechyd Strategol Swydd Gaer a Glannau Mersi a Chyfarwyddwr Dros Dro Iechyd y Cyhoedd / Cyfarwyddwr Meddygol yn Awdurdod Iechyd Strategol Manceinion Fwyaf.
Cafodd Ruth ei hyfforddiant clinigol cynnar mewn ysbytai ac mewn practisau meddygon teulu ac mae hi hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Lerpwl ac yn Uwch Ddarlithydd ym maes Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Lerpwl.
Dywedodd Dr Hussey:
“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Brif Swyddog Meddygol Cymru. Mae anghydraddoldebau ym maes iechyd a phwysigrwydd cynnwys cymunedau mewn penderfyniadau am eu hiechyd a’u gofal nhw eu hunain o ddiddordeb arbennig i mi, felly rwyf yn edrych ymlaen at barhau gwaith gwych Dr Tony Jewell a’i dîm o ran gwella iechyd a lles pobl Cymru.
“A’r lefel personol, dwi'n edrych ymlaen at ddod yn nôl i Gymru i fyw ac i wella fy Nghymraeg.”
Rhagwelir y bydd Dr Hussey yn dechrau ym mis Medi, ar ôl ymddeoliad Dr Jewell.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
“Rwyf yn falch iawn ein bod ni wedi dod o hyd i rywun o safon Dr Hussey i ddarparu cyngor clinigol i Lywodraeth Cymru ar ystod o faterion iechyd a gofal iechyd. Mae’n siwr gen i y bydd Dr Hussey yn olynydd teilwng iawn i Dr Jewell ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i’r tîm yn nes ymlaen eleni.”