Mae’r ffigurau cychwynnol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod holl sefydliadau’r GIG wedi cyrraedd eu targedau ariannol yn 2011-12, gyda swm bach o £0.5 miliwn dros ben.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod sicrhau cydbwysedd ariannol wedi digwydd ochr yn ochr â gwelliant a chynhaliaeth cyffredinol yn erbyn blaenoriaethau allweddol.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwy’n falch o gyhoeddi bod holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru wedi cyrraedd eu targedau ariannol statudol ar gyfer 2011-12. Mae hyn yn llwyddiant arbennig o ystyried y pwysau ariannol y mae GIG Cymru yn eu hwynebu.
“Fis Hydref y llynedd, dywedais mai rheolwyr y GIG fyddai’n atebol am reoli ariannol yn eu sefydliadau, gyda chamau cryf yn cael eu cymryd pe na bai targedau ariannol yn cael eu cyrraedd.
“Er mwyn rhoi terfyn ar ddibyniaeth ar gymorth ariannol diwedd blwyddyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru £145 miliwn ychwanegol i’r GIG ym mis Hydref, gan rybuddio na fyddai cymorth ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol.
“Yn ogystal â chyflawni’r gyllideb, mae sefydliadau’r GIG hefyd wedi llwyddo i arbed £290 miliwn yn ystod y flwyddyn. Maen nhw wedi llwyddo i wneud hyn gan gyflawni perfformiad clinigol, fel trin dioddefwyr strôc yn gynt a lleihau achosion o aildderbyn cleifion brys i’r ysbyty.
“Doedd hyn byth am fod yn hawdd ac rydyn ni wedi caniatáu i dri o’r saith Bwrdd Iechyd Lleol ddwyn canran fechan o gyllid y flwyddyn nesaf i helpu i gyrraedd eu targedau. Dim ond 0.2 y can o gyllideb y GIG sy’n cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy’n falch o ddweud bod y ddysgl yn wastad yn 2011-12.
“Fel amod ar fod yn hyblyg, mae fy swyddogion wedi comisiynu adolygiad ariannol allanol ar gynlluniau ariannol y sefydliadau hyn.
“Hoffwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf i gyrraedd y sefyllfa wych hon. Mae perfformiad ariannol cadarn wedi rhoi GIG Cymru yn y sefyllfa gryfaf bosibl i sicrhau’r gwelliannau, yr arbedion effeithlonrwydd a’r newidiadau a fydd yn sail i’w lwyddiant yn y dyfodol.”
Bydd y ffigurau wedi’u harchwilio i gadarnhau’r sefyllfa ariannol ar gael ym mis Mehefin.
Cytunodd Llywodraeth Cymru y gallai 3 Bwrdd Iechyd Lleol (Aneurin Bevan, Cwm Taf a Phowys) ddwyn swm bach o ddyraniad 2012-13 ymlaen, sef cyfanswm o £12.4 miliwn ar gyfer y tri sefydliad, i ddelio â materion amseru diwedd y flwyddyn. Dim ond 0.2% o gyllideb y GIG yw hyn, ac fe’i rheolwyd o fewn y gyllideb iechyd gyffredinol, sydd heb wneud colled yn 2011-12.











