Mae’r strategaeth draws-Lywodraethol yn adlewyrchu pa mor benderfynol yw Llywodraeth Cymru i barhau i wella iechyd meddwl y wlad a datblygu ymhellach wasanaethau iechyd meddwl o safon uchel, a’r rheiny’n seiliedig ar dystiolaeth.
Y nod yw cyflymu momentwm a chyflawniadau’r blynyddoedd diwethaf a bydd y strategaeth yn helpu i gyflawni’r uchelgeisiau ehangach a amlinellir yn y Rhaglen Llywodraethu a Law yn Llaw at Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i Gymru; Fframwaith Gweithredu.
Bydd chwarter poblogaeth Cymru yn profi problemau iechyd meddwl neu salwch meddyliol rhyw ben. Gall effeithio ar unrhyw un unrhyw bryd a gall gael effaith fawr iawn ar aelodau’r teulu, cyfeillion a chydweithwyr.
Mae cysylltiad amlwg rhwng iechyd corfforol ac iechyd y meddwl. Gall anhwylderau corfforol arwain at ddirywiad o ran lles meddwl a, llawn cymaint, gall problemau iechyd meddwl effeithio ar ein hiechyd corfforol.
Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar wella canlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a’u teuluoedd. Ategir hyn gan y dull o adfer ac ail-alluogi, sydd â’r nod o helpu pobl i fyw’n annibynnol a chyflawni eu potensial llawn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
“Rydyn ni i gyd yn cydnabod pwysigrwydd cynnal ffordd iach o fyw ond ychydig iawn ohonom fydd yn treulio amser yn rhoi ystyriaeth i’n hiechyd meddwl.
“Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a’u teuluoedd. Mae Mesur Iechyd meddwl (Cymru) wrth galon y strategaeth hon. Mae’r mesur yn rhoi dyletswyddau newydd ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol.
“Nod y strategaeth yw mynd i’r afael ag anghenion pobl â phroblemau iechyd meddwl neu salwch meddwl a gwella lles meddwl yn gyffredinol. Mae’n cynnwys pobl o bob oedran ac mae’n ceisio ymwneud â phob sector yng Nghymru er mwyn cyflawni ei amcanion”.
“Mae’n pwysleisio’r angen i fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu a sicrhau bod yr un gofal a thriniaeth ar gael i grwpiau sy’n agored i niwed”.
Byddwn yn ymgynghori ar y strategaeth am gyfnod o 12 wythnos. Bydd fersiwn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc a fersiwn hawdd i’w darllen o’r strategaeth ar gael. Caiff digwyddiadau ymgynghori eu cynnal ledled Cymru ym mis Mehefin, wedi’u hanelu at ddarparwyr gwasanaeth, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.











