Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Lleihau achosion strôc yng Nghymru

Mae cynllun newydd i sicrhau bod achosion strôc yng Nghymru gyda’r isaf yn Ewrop erbyn 2016 wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.
Dydd Gwener 11 Mai 2012

Mae Law yn llaw yn erbyn Strôc yn anelu i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan helpu i gyflawni’r uchelgais ehangach i wella gwasanaethau ar gyfer y rheiny sydd mewn peryg o gael, neu a fydd yn cael strôc dros y blynyddoedd nesaf.

Cyhoeddir y cynllun wrth i ffigurau newydd ddangos sut mae gofal strôc eisoes wedi gwella yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf ac mae’n amlinellu sut y mae’r Llywodraeth am weithio gyda’r GIG a phartneriaid eraill yn y meysydd canlynol:

  • atal strôc – gan gynnwys adnabod y rheiny sydd mewn peryg
  • adnabod strôc yn gyflym a darparu gofal o safon, effeithiol a chyflym – gan gynnwys datblygu canolfannau strôc arbenigol lle bydd bob claf yn derbyn triniaeth o fewn pedair awr
  • cefnogi’r rheiny sy’n byw gyda strôc – gan gynnwys daparu gofal dilynol addas a chefnogaeth barhaus, a chynnwys gofalwyr strôc yn natblygiad gwasnaethau
  • cefnogi ymchwil strôc i sicrhau gwell triniaeth yn y dyfodol a chyflymu’r broses o gyflwyno triniaethau a thechnolegau newydd sydd wedi’u profi’n effeithiol.

Bydd cysylltiadau TG a chyfathrebu sy’n rhoi mynediad cyflym a diogel i staff clinigol i’r wybodaeth berthnasol i helpu cleifion hefyd yn cael eu cryfhau, tra bydd data blynyddol yn cael ei gyhoeddi i ddangos cynnydd ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:

“Mae trin strôc yn parhau’n brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.  Mae Cymru eisoes wedi gwneud gwelliannau calonogol i’w gwasanaethau strôc, ond trwy weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r camau gweithredu sydd yn Law yn Llaw yn erbyn Strôc, gallwn wneud hyd yn oed yn well.

“Mae’n rhaid i ni weithio’n galetach i atal strôc yn y lle cyntaf a chanolbwyntio ar gael diagnosis cynt, ynghyd â’r driniaeth orau bosib i sicrhau cyfraddau goroesi sydd ymysg y gorau yn Ewrop.

“Mae’n rhaid i unigolion chwarae rôl hefyd wrth ofalu am eu hiechyd eu hunain.  Mae dewisiadau ffordd o fyw yn cael effaith arwyddocaol ar gyfraddau strôc ac mae’n hollbwysig ein bod ni’n lleihau lefelau gordewdra, ysmygu, defnydd cyffuriau ac alcohol.

“Mae’r cynlluniau hyn yn gam tuag at yr ymrwymiad yn ein gweledigaeth bum mlynedd ar gyfer GIG Cymru, Law yn Llaw dros Iechyd, sef o fewn 12 mis y byddwn yn cyhoeddi cynlluniau cyflawni ar gyfer prif wasanaethau eraill, gan fanylu ar y camau nesaf i wella’r gwasanaeth.

“Lle bo’n briodol, bydd gwasanaethau strôc yn cael eu datblygu a’u haildrefnu er mwyn rhoi’r canlyniadau gorau posibl i gleifion.  Bydd darparu gofal dilynol a chefnogaeth barhaol yn lleol yn ganolog i’r cynllun, ynghyd â chynnwys gofalwyr strôc mewn gwasanaethau i’r dyfodol.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 11 Mai 2012 Gwella iechyd Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i