Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ehangu prosiect i roi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau

Mae prosiect sy’n rhoi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ddod yn annibynnol yn ariannol wedi cael hwb gan Lywodraeth Cymru.
Dydd Llun 14 Mai 2012

Prosiect arloesol yw “Mentora Cymheiriaid”, ac mae’n cael ei ehangu i godi ymwybyddiaeth o faterion camddefnyddio sylweddau yn y gweithle.

Mae’r prosiect, sy’n cael ei gyllido trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn rhoi cymorth ôl-driniaethol i bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau o’r blaen ac sydd ar hyn o bryd yn ddi-waith. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gallu cael hyfforddiant a chyfle i ddatblygu, a’r nod yn y pen draw yw eu bod yn dod yn annibynnol yn ariannol trwy gael gwaith sy’n talu.

Ers i’r prosiect gael ei lansio ym mis Hydref 2009, mae wedi mynd o nerth i nerth, gan adeiladu ar y cysylltiadau cryf sydd ganddo ag asiantaethau ymhob rhan o Gymru. Mae’r prosiect wedi gweithio gyda rhyw 4,700 o bobl, a maent hwythau wedi ennill dros 600 o gymwysterau, gan arwain at 2,043 o ganlyniadau cadarnhaol, gyda 441 wedi mynd ymlaen i ddysgu rhagor a 514 wedi cychwyn gweithio’n llawn amser.

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi bod y prosiect hwn yn cael ei ehangu er mwyn codi ymwybyddiaeth o gamddefnyddio sylweddau yn y gweithle ac i roi cefnogaeth fel bod pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac sy’n gweithio yn gallu parhau i weithio.  

Bydd ehangu’r prosiect yn hyrwyddo rhagor o ddealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o gamddefnyddio sylweddau, ac fe allai helpu darparwyr gwasanaethau i ganfod swyddi i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y prosiect.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Dyma brosiect hollbwysig sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai sydd nid yn unig yn camddefnyddio sylweddau eu hunain ond hefyd eu cyflogwyr presennol a’u darpar gyflogwyr gan fod camddefnyddio sylweddau yn gallu effeithio ar y rheini hefyd.

“Rhywbeth sy’n fwy trawiadol na’r ystadegau yw’r effaith y mae’r prosiect wedi ei chael ar fywydau pobl. Yn ôl rhai sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect, dyma’r unig ffordd y gallent eu gweld eu hunain yn mynd yn ôl i swydd lawn amser. Roeddent yn falch o’u llwyddiant, ac yn dweud eu bod yn teimlo ei fod yn ail gyfle i fyw bywyd.

“Mae’r prosiect Mentora Cymheiriaid yn rhoi cymorth a chyfarwyddyd, ac yn ffordd yn ôl i fywyd pob dydd a datblygiad personol.

“Gyda mentrau megis DAN 24/7, sef llinell gymorth cyffuriau ddwyieithog a rhad ac am ddim, yn bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth neu gymorth am gyffuriau neu alcohol, rwy’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn codi ymwybyddiaeth am y mater, ac yn cyfrannu at roi dyfodol annibynnol yn ariannol i bobl sy’n brwydro yn erbyn problemau camddefnyddio sylweddau.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Cynllun Mentora Cymheiriaid

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 14 Mai 2012 Cymru iachach Gwella iechyd Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i