Dyma’r fframwaith cyntaf i gael ei gyhoeddi i gefnogi “Law yn Llaw at Iechyd”, sef gweledigaeth 5 mlynedd y Llywodraeth ar gyfer y GIG yng Nghymru, ac mae’n canolbwyntio ar bedwar prif amcan:
- Datblygu gweithlu ymroddgar – gan gynnwys arfarniadau blynyddol, cynlluniau datblygiad personol ac arolygon o’r gweithlu
- Sicrhau gweithlu cynaliadwy a medrus, gyda staff sy’n llysgenhadon, yn hyrwyddo dewisiadau iach
- Ailgynllunio’r gweithlu i gefnogi GIG cynaliadwy – mynd ati i gynnwys staff wrth gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol
- Canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch ar adeg sy’n heriol yn ariannol – a sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud yn rhan o waith pob dydd.
Lansiodd Ms Griffiths y fframwaith yng nghyfarfod y British Geriatrics Society yn Llandudno, gan ychwanegu:
“Rwyf eisiau i staff y GIG sicrhau bod pob cyfarfyddiad â chlaf yn gyfle i wella iechyd, nid dim ond trin salwch. Hefyd, rwyf eisiau i staff gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain, a hyrwyddo dewisiadau iach – nhw ydi’n llysgenhadon ni.
“Mae mymryn dros 83,000 o bobl yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru, a bydd 80% o’r gweithlu yma yn dal i fod yn gweithio i’r GIG ymhen deng mlynedd. Felly, mae’n hollbwysig fod pob aelod o’r staff yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw i gyflwyno gofal iechyd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae staff ymroddgar ac ymrwymedig yn hollbwysig i wella gwasanaethau – ac mae hyn yn golygu rhoi’r sgiliau iddynt i lwyddo.”
“Mae’r fframwaith yn nodi sut bydd gwasanaethau sydd wedi eu hailgynllunio yn y GIG yn gofyn am staff sydd â chymysgedd gwahanol o ran sgiliau, ymestyn gwasanaethau dros y penwythnos a gyda’r nos, yn ogystal â datblygu swyddogaethau ar y cyd â darparwyr gofal cymdeithasol.
“Gyda’r fframwaith yn amlinellu bwriadau clir, bydd sefydliadau’r GIG yn datblygu cynlluniau penodol yn lleol, a’r rheini’n cael eu mesur yn erbyn y mesurau canlyniadau sydd yn y fframwaith.”
Mae Kylie Crook, Nyrs Glinigol Arbenigol Arweiniol, yn enghraifft o’r ffordd y mae datblygu staff yn rhywbeth sy’n allweddol i wella gwasanaethau. Mae Kylie hefyd yn Arweinydd Prosiect ar gyfer Targedau Gwybodaeth Strôc Acíwt Ysbyty Brenhinol Gwent ac yn gweithio ar y Rhaglen Gwella Strôc. Mae hi’n rhan o dîm sydd wedi bod yn gweithio tuag at wella gwasanaethau strôc ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, gan feincnodi gwasanaethau yn erbyn targedau cenedlaethol.
Dywedodd Kylie:
“Yn ogystal â’r profiad sydd gennyf o nyrsio a hyfforddiant mewn rheolaeth, rwyf wedi cael llawer o gefnogaeth ac arweiniad gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH). Maen nhw wedi bod yn cynnal sesiynau dysgu ar y Rhaglen Gwella Strôc ar gyfer arweinwyr prosiectau o bob Bwrdd Iechyd.
“Mae’r rheini wedi canolbwyntio ar reoli newid, edrych ar ddata ynglŷn â’r ddarpariaeth strôc bresennol, a defnyddio methodoleg rheoli gofal iechyd i wella gofal strôc. Rwy’n teimlo eu bod wedi fy helpu i fy ngalluogi i fwrw ymlaen â gwelliannau i’r gwasanaeth.”











