Yn ystod ymweliad ag Ysbyty Llandudno, croesawodd y Gweinidog ddatblygiad Pecyn Gofal y Geg, sydd wedi’i ddatblygu’n seiliedig ar ganlyniadau adroddiad offeryn archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan 2009/10.
Er bod archwiliad 2010 wedi dangos gwelliannau i safonau ledled Cymru, sefydlodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru weithgor amlddisgyblaethol i fynd i’r afael â rhai materion penodol, gan arwain at ddatblygu’r Pecyn Gofal y Geg Cymru Gyfan.
Mae’r pecyn gofal y geg yn seiliedig ar arfer gorau a bydd yn sicrhau bod pob claf sy’n defnyddio’r GIG yng Nghymru yn derbyn gofal y geg a chyngor ar ofal y geg o’r safon uchaf posibl.
Mae’n cynnwys Offeryn Asesu Claf, Taflen Adnoddau, Offeryn Monitro Dyddiol a Chynllun Gofal. Mae offeryn e-ddysgu hefyd yn cael ei ddatblygu i gefnogi’r pecyn a fydd yn cael ei ddefnyddio gan staff cyfredol ac fel rhan o’r rhaglenni gradd.
Cafodd y pecyn ei ddatblygu gan dîm amlddisgyblaethol gan gynnwys deintyddion cymunedol a deintyddion ysbytai.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
"Mae’r Pecyn Gofal y Geg yn enghraifft wych o bolisi’n cael ei arwain gan staff ac ymarferwyr rheng flaen.
"Mae’n dangos pwysigrwydd offeryn archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan, sy’n nodi arfer da ond sydd hefyd yn tynnu sylw at feysydd sydd angen eu gwella.
"Gall cleifion y mae angen iddynt dreulio amser mewn lleoliadau gofal fod yn siŵr y byddant yn derbyn gofal holistaidd."
Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio, yr Athro Jean White:
"Mae offeryn archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan yn werthfawr iawn o ran pennu meysydd sydd angen eu gwella er lles profiad y claf. Byddwn yn parhau i ddadansoddi canlyniadau’r archwiliad blynyddol i sicrhau bod y gofal yr ydym yn ei ddarparu ymysg y gorau yn y byd."











