Mae’r ddau benodiad am dymor o bedair blynedd hyd at 31 Mawrth 2016. Bydd Chantal Patel yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £15,936 y flwyddyn ac yn ymrwymo pedwar diwrnod y mis i’r gwaith. Bydd Mike Ponton yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £13,344 y flwyddyn ac yn ymrwymo pedwar diwrnod y mis i’r gwaith.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rwyf wrth fy modd fod Chantal Patel a Mike Ponton wedi penderfynu defnyddio eu sgiliau i gyfrannu at y GIG. Bydd profiad yr aelodau bwrdd hyn yn ein helpu wrth inni roi’r newidiadau angenrheidiol ar waith er mwyn ymateb i’r heriau sy’n wynebu GIG Cymru, fel yr amlinellwyd yn ein strategaeth bum mlynedd ar gyfer GIG Cymru, Law yn Llaw at Iechyd.”
Mae Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am gynllunio, datblygu a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal mewn ysbytai yn cael eu darparu, yn ogystal â gwasanaethau arbenigol ar gyfer dinasyddion yn eu hardaloedd eu hunain, pan fo angen, er mwyn bodloni anghenion lleol a nodwyd yn y fframwaith polisi a safonau cenedlaethol a luniwyd gan y Gweinidog.
Chantal Patel:
Darlithydd mewn Cyfraith a Moeseg Gofal Iechyd sy’n darlithio i bob grŵp iechyd yw Chantal Patel, ac mae hefyd yn aelod o sawl pwyllgor prifysgol. Ar hyn o bryd mae Mrs Patel yn Bennaeth Astudiaethau Rhyngbroffesiynol yn y Coleg Iechyd a Gwyddorau Dynol. Mrs Patel yw ysgrifennydd Cymdeithas Indiaidd De Orllewin Cymru ac mae hefyd yn Ynad Heddwch ar gyfer oedolion yn Llysoedd Ynadon Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi Abertawe. Mae Mrs Patel hefyd yn Llywodraethwr Coleg Gŵyr ac yn aelod o fwrdd Grŵp Gwalia sy’n darparu amrywiaeth o dai i denantiaid sydd ar incwm isel. Yn ogystal â hyn roedd yn aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Abertawe. Nid oes ganddi unrhyw swyddi cyhoeddus Gweinidogol eraill.
Mike Ponton:
Mae Mike Ponton yn ymddiriedolwr ac yn aelod o fwrdd amryw o fudiadau (Age Concern, Lles Wales a’r Sefydliad Iechyd Gwledig) ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gyn uwch gymrawd Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Morgannwg. Mr Ponton oedd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru a Phennaeth Hybu Iechyd Llywodraeth Cymru, cyn dod yn Gyfarwyddwr Polisi a Datblygu Iechyd. Yn wir, bu’n gweithio fel Rheolwr i’r GIG drwy Gymru a Lloegr er 1962. Nid oes ganddo unrhyw swyddi cyhoeddus Gweinidogol eraill.











