Lluniwyd y pecynnau gan y Gymdeithas Alzheimer's a chawsant eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Dyma’r pecynnau cyntaf o’r fath yn y DU i ddarparu gwybodaeth am effeithiau tebygol dementia ac maent yn cynnwys gwybodaeth graidd am wasanaethau cenedlaethol a lleol. Cyhoeddir yr adnodd hanfodol hwn – Byw yn dda gyda dementia ar ôl diagnosis – yn dilyn y Weledigaeth Genedlaethol ar Ddementia, sy’n adlewyrchu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau o ansawdd uchel, i hybu ymchwil ac i annog diagnosis cynharach ac ymyriadau mwy prydlon.
Mae’r £84,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi galluogi'r Gymdeithas Alzheimer’s i benodi dau Swyddog Cyswllt Gwybodaeth am Ddementia, un yn y gogledd a’r llall yn y de, i ddatblygu cysylltiadau rhwng yr asiantaethau allweddol ac i annog cydweithio a chydweithredu ystyrlon.
Bydd y pecynnau’n ategu’r gweithgareddau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth: mae Llinell Gymorth ddwyieithog Dementia Cymru yn cynnig cyngor a chymorth emosiynol 24/7 365 diwrnod y flwyddyn, ac mae’r Cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru arloesol gan Lywodraeth Cymru wedi’i ehangu i gynnwys pedwar llyfr ar ddementia yn ôl argymhelliad gweithwyr iechyd proffesiynol y GIG. At hynny, mae Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru wedi cael dros £250,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i adolygu, datblygu a chyflwyno hyfforddiant i ystod eang o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys gofalwyr ac aelodau o’r teulu, staff cartrefi gofal, a’r rheini sy’n gweithio mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.
Hefyd, dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol er mwyn gwella gwasanaethau. Mae’r cyllid blynyddol rheolaidd o £1.5 miliwn wedi galluogi ehangu’r Timau Iechyd Meddwl Cymuned ar gyfer Pobl Hŷn, drwy benodi cydgysylltwyr dementia newydd, a sefydlu Gwasanaeth Dementia sy’n Dechrau mewn Pobl Ifanc yng Nghymru.
Drwy ddefnyddio Targedau Deallus, bydd GIG Cymru yn parhau i wella ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion gyda dementia a byddant yn helpu i fonitro canlyniadau. Bydd hyn yn rhoi arwyddion da o le mae angen gwneud gwelliannau a sut orau i’w gweithredu. Drwy roi sylw i wasanaethau asesu’r cof, wardiau ysbytai cyffredinol, a chyfleusterau cleifion mewnol a chymunedol, bydd y targedau hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel a gofal gydag urddas yn y modd lleiaf cyfyngol posibl.
Mae’r strategaeth iechyd meddwl sy’n cael ei datblygu, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, yn atgyfnerthu’r cynnydd a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf ac yn amlinellu sut bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn parhau i gyflawni gwelliannau gwirioneddol i bobl Cymru. Mae’r strategaeth, sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad, yn gynhwysol i bob oed, a hithau wedi’i llunio i roi sylw i anghenion plant, y glasoed, oedolion a phobl hŷn.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Rydw i’n falch iawn o ymuno â’r Gymdeithas Alzheimer’s i lansio’r adnodd gwerthfawr hwn. Dylem gymeradwyo dyfalbarhad y Gymdeithas i ddarparu cyngor clir a defnyddiol i bobl â dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd, gan bwysleisio bod sawl ffynhonnell o gymorth ymarferol ac emosiynol ar gael sy’n galluogi pobl i fyw yn dda gyda dementia ar ôl diagnosis.”











