Gwahoddwyd arweinwyr o’r system fabwysiadu i ymuno â’r grwp. Bydd gan yr aelodau rôl hanfodol i’w chwarae i ddatblygu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol newydd. Byddant hefyd yn ystyried y diwygiadau sylweddol sy’n angenrheidiol er mwyn trawsnewid y systemau mabwysiadu cyfredol.
Cadarnhaodd Mrs Thomas fod Dr Kevin Fitzpatrick OBE wedi’i benodi’n gadeirydd y grwp hwn. Mae gan Kevin gefndir proffesiynol ac academaidd a fydd yn ei alluogi i gyfrannu at ddatblygu cyngor ar bolisi. Bydd yn annog aelodau’r grwp i weithio mewn partneriaeth i ddiffinio a chyflenwi gwasanaeth mabwysiadu sy’n diwallu anghenion pobl Cymru.
Bydd y grwp yn ystyried agweddau ar y broses fabwysiadu y gellir eu cyflawni orau ar sail Cymru gyfan, ond mae’n cydnabod bod yna rai swyddogaethau a ddylai barhau i fod yn gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol unigol. Mae’n bwysig caniatáu i asiantaethau mabwysiadu unigol ganolbwyntio ar drefniadau lleoli'r plentyn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwenda Thomas:
“Rwy’n falch iawn fod Kevin wedi ymgymryd â’r rôl heriol hon ac rwy’n hyderus y bydd y grwp yn llwyddo i ddarparu model system gyfan a fydd yn gwireddu potensial llawn yr ymrwymiad pwysig hwn.
“Rhaid ymdrin â phryderon cyfredol heb golli cryfderau diamheuol y system bresennol – cyflawni newid heb beri niwed.
“Fy nod yw trawsnewid gwasanaethau mabwysiadu, newid y patrwm lleoli ac annog ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau parhaol drwy hybu mwy o fabwysiadu ac ehangu’r gronfa o fabwysiadwyr.”











