Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Adroddiad yn canmol nyrsys Cymru wrth i safonau gofal wella

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod oedolion sy’n gleifion yn ysbytai Cymru yn fodlon dros ben. Yn wir, dywed dros 95% eu bod yn teimlo bod y staff nyrsio yn eu parchu.
Dydd Gwener 25 Mai 2012
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (25 Mai) yn dangos bod oedolion sy’n gleifion yn ysbytai Cymru yn fodlon dros ben. Yn wir, dywed dros 95% eu bod yn teimlo bod y staff nyrsio yn eu parchu.

Mae trydydd Adroddiad Cryno blynyddol Archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan yn crynhoi’r canlyniadau o ysbytai Cymru. Erbyn hyn mae pob un ohonynt yn defnyddio Offeryn Archwilio Hanfodion Gofal Cymru Gyfan.

Adeiladu ar y momentwm a’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw ei nod, yn ogystal â helpu i wireddu’r dyheadau ehangach a amlinellwyd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Elfennau sylfaenol gofalu am gleifion yw’r “Hanfodion Gofal”, fel y ffordd y cyfathrebir â chleifion, y ffordd y cânt eu cadw’n lân, pa mor dda maen nhw’n bwyta ac yn yfed ac i ba raddau maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac o bwys yn yr ysbyty.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cleifion wedi rhoi sgôr uchel yn amryw o’r 12 maes a archwiliwyd, a bod pobl yn cael eu parchu’n fwy o lawer, wrth i arferion da gefnogi’r agenda urddas a pharch. Gwelwyd canlyniadau gwych gan ddefnyddwyr hefyd o ran sicrhau bod cleifion yn gysurus a lleddfu eu poen. Derbyniodd staff ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd adborth cadarnhaol o fwy na 95% - gyda Bwrdd Addysgu Iechyd Powys yn cael sgôr o 100%.

Dywedodd  Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Dyma’r tro cyntaf inni gyhoeddi adroddiad ar safon y gofal y bydd oedolion sy’n gleifion yn ei dderbyn ledled Cymru. Mae’r canlyniadau yn adlewyrchu ymrwymiad nyrsys i ddarparu gofal rhagorol.

“Yn ogystal â dangos ble mae’r GIG yn perfformio’n dda, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y meysydd y mae angen eu gwella. Un o’r rhain yw iechyd a hylendid y geg, a gaiff ei dargedau gan fentrau fel y Pecyn Gofal y Geg a lansiwyd gennyf yr wythnos diwethaf, ble mae Cymru yn arwain y ffordd.”

Ychwanegodd yr Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio Cymru:

“Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd gan yr offeryn i ffurfio meincnod ar gyfer blaenoriaethu camau lleol gan sefydliadau, yn ogystal â dylanwadu ar waith drwy Gymru gyfan.

“Gellir ei ddefnyddio i dynnu sylw at arferion gorau, y gellir eu rhannu rhwng byrddau iechyd er mwyn rhoi gofal o safon uwch i gleifion a gwella profiad cyffredinol y claf.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Archwiliad Hanfodion Gofal Cymru Gyfan

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 25 Mai 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i