Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), a luniwyd er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr ynghylch ble maent yn bwyta neu’n prynu bwyd, ac i wella arferion hylendid bwyd mewn busnesau.
Mae cyflwyno cynllun sgoriau hylendid bwyd gorfodol yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a hwn fyddai cynllun gorfodol cyntaf y DU.
O dan y cynllun hwn, bydd busnesau’n cael sgôr rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 0 yn golygu bod angen gwelliant ar frys, a sgôr o 5 yn golygu bod safonau hylendid yn dda iawn.
Bydd y sgôr yn seiliedig ar feini prawf sy’n cynnwys safonau trin bwyd – fel sut mae’r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei gadw’n oer a’i storio, cyflwr y safle a’r gweithdrefnau sydd yn eu lle i sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu’n ddiogel.
Bydd yn ofynnol i fusnesau arddangos eu sgôr mewn man amlwg, fel y fynedfa, neu wynebu dirwy.
Yn dilyn ymgynghori ar y cynigion yn gynharach eleni, mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau i gynnwys busnesau sy’n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill.
Hefyd, mae dyletswydd newydd ar fusnesau bwyd i ddweud beth yw eu sgôr hylendid bwyd wrth gwsmeriaid sy’n eu holi. Bydd gwrthod gwneud hynny’n drosedd. Bydd hyn yn galluogi pobl â nam ar eu golwg neu bobl sy’n gwneud ymholiadau dros y ffôn i gael gwybod beth yw sgôr hylendid y sefydliad cyn ei ddefnyddio.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:
“Bydd y Bil yn cyflwyno mesur iechyd cyhoeddus syml ond effeithiol a fydd yn grymuso defnyddwyr ac yn helpu i wella safonau hylendid bwyd.
“Mae hylendid bwyd yn hanfodol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cynllun sgorio’n helpu i godi safonau ac yn sicrhau bod defnyddwyr a busnesau’n elwa.
“Bydd y cynllun yn galluogi defnyddwyr i wneud dewis mwy cytbwys ynghylch ble maent yn dewis bwyta neu siopa am fwyd, tra bydd hylendid bwyd da yn golygu sgoriau uwch sy’n dda i fusnes.”
Os daw’r Bil yn gyfraith, disgwylir mai ar ddiwedd 2013 y bydd y cynllun gorfodol yn dod i rym. Yn y cyfamser bydd cyfle i fusnesau baratoi ar ei gyfer.
Fel yn achos y cynllun gwirfoddol presennol, bydd amlder yr arolygiadau’n seiliedig ar asesiad o’r risg i’r defnyddiwr, fel y math o fusnes bwyd, natur y bwyd a maint y busnes.
Gall busnesau apelio yn erbyn eu sgôr os ydynt yn ystyried ei fod yn anghyfiawn neu’n annheg. Gallant hefyd ofyn am arolygiad ail-sgorio, a thalu amdano, os ydynt wedi cyflawni’r gwelliannau sy’n ofynnol.
Mae’r ddeddfwriaeth yn bwriadu cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig o £200 am droseddau fel peidio ag arddangos y sgoriau, gyda gostyngiad am dalu’r ddirwy’n gynnar. Mae pwerau hefyd i erlyn, gydag uchafswm dirwy o £1000 yn cael ei gynnig.











