Mae’r polisi o gael dim heintiau ataliadwy sy’n gysylltiadau â gofal iechyd yn rhan o ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau gwell iechyd i bawb.
Mae nifer o ffactorau yn gallu cynyddu’r risg o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, ond gellir lleihau’r risg gyda dulliau cadarn a chynaliadwy o reoli heintiau a’u hatal rhag lledu. Mae angen i sefydliadau gofal iechyd sicrhau bod gan eu staff y sgiliau, yr wybodaeth a’r adnoddau i ddarparu gofal mewn amgylchedd sy’n ddiogel i gleifion.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bolisi o gael dim heintiau ataliadwy sy’n gysylltiedig â gofal iechyd oherwydd mae’n annerbyniol fod y system iechyd yn gallu achosi niwed i gleifion. Mae disgwyl i sefydliadau gofal iechyd ddarparu gofal sy’n effeithiol a hefyd yn ddiogel.
“Mae dulliau atal yn allweddol wrth fynd i’r afael â heintiau o’r fath, ac mae cael staff ac ymwelwyr i wneud rhywbeth syml fel golchi eu dwylo’n iawn yn gwneud byd o wahaniaeth.
“Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi canmol Cymru am y nifer fwyaf o gofrestriadau newydd yn yr ymgyrch Glanhewch eich dwylo eleni. Mae hyn yn dangos gymaint o ddifrif yr ydyn ni ynglŷn â mynd i’r afael â’r heintiau.”
“Mae yna dipyn o ffordd i fynd eto cyn y gallwn ni ddweud yn hyderus nad oes dim heintiau ataliadwy sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yng Nghymru, ond dyma sicrhau cleifion a’r cyhoedd ein bod wedi ymrwymo i gyrraedd y sefyllfa honno.”











