Cyhoeddwyd y data gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, i ymateb i honiad fod 24 o driniaethau canser heb fod ar gael yng Nghymru.
Dywedodd fod 16 o’r triniaethau wedi cael eu rhoi i fwy na 200 o bobl y flwyddyn cynt, ac er na fu unrhyw geisiadau am yr wyth meddyginiaeth arall, roeddent ar gael i gleifion beth bynnag.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Honnwyd nad yw 24 o driniaethau canser, a enwyd mewn adroddiad gan Sefydliad y Canserau mwy Anghyffredin, ar gael yng Nghymru.
“Mae’r ffigurau a gyhoeddir gennyf heddiw yn dangos yn bendant nad dyma’r sefyllfa. A dweud y gwir, fe dderbyniodd 232 o gleifion y triniaethau hyn yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Felly, mae honni nad yw’r cyffuriau ar gael i gleifion yng Nghymru yn gwbl anghywir.
“Yng Nghymru, mae’r holl gyffuriau hyn ar gael i gleifion drwy Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol, sy’n asesu p’un a fyddai cleifion yn elwa o gael y driniaeth, yn seiliedig ar y dystiolaeth glinigol a phrawf o natur eithriadol y sefyllfa.
“Y gwir yw mai mesur tymor byr yn unig yw’r Gronfa Cyffuriau Canser, a’i bod yn seiliedig ar hwylustod gwleidyddol sy’n creu gobaith gwag, fel y dengys y tanwariant o £150 miliwn allan o gyfanswm o £200 miliwn y flwyddyn cynt.”
Ychwanegodd:
“Anghywir hefyd yw’r honiad fod cleifion yng Nghymru bum gwaith yn llai tebygol o allu cael gafael ar feddyginiaethau mwy newydd ar gyfer canser. Ni roddir yr un feddyginiaeth canser os yw wedi ei gwahardd, ac mae pob meddyginiaeth sydd wedi’i hawdurdodi i’w masnachu ar gael yng Nghymru.”











