Yn ogystal â chanolfan iechyd newydd fodern, mae @Loudoun yn gartref i Ganolfan newydd ar gyfer Diwylliant a’r Cyfryngau, tair uned ar gyfer mentrau cymdeithasol, canolfan BEST Cyngor Caerdydd a gwasanaethau gwybodaeth ‘Yr Hyb’.
Mae Canolfan Iechyd newydd Butetown yn darparu llu o wasanaethau i’r gymuned leol, i gyd o dan yr un to. Mae’r rhain yn cynnwys dwy feddygfa a deintyddfa, pob un â lle ar eu llyfrau ar gyfer cleifion ychwanegol. Mae elfen gofal sylfaenol y cyfleuster hwn hefyd yn cynnwys fferyllfa gymunedol.
Mae gwasanaethau iechyd cymunedol hefyd ar gael yn cynnwys syrjeri ddeintyddol, nyrsys ardal, ymwelwyr iechyd a gwasanaethau iechyd plant, podiatreg, dieteteg, awdioleg, iechyd rhywiol, clefyd y crymangelloedd a thalasaemia.
Bydd Lesley Griffiths y Gweinidog Iechyd yn mynychu’r agoriad swyddogol ac mae’n croesawu’r ffaith fod canolfan iechyd integredig newydd yn cael ei darparu. Dywedodd:
"Gwasanaethau iechyd sydd wrth wraidd y datblygiad cymunedol rhagorol hwn. Yn ogystal â darparu manteision economaidd a chymdeithasol, bydd @Loudoun hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau iechyd hygyrch, uchel eu safon, a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddiwallu anghenion y gymuned leol."
Prosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw hwn.
Ychwanegodd Paul Hollard, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
"Rwyf wrth fy modd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gallu darparu amrywiaeth mor eang o wasanaethau iechyd sylfaenol a chymunedol i drigolion Butetown, a hynny mewn un canolfan - @Loudoun. Dyma benllanw rhaglen waith bwysig gan amryw o bartneriaid ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod y prosiect hwn yn gweld golau dydd."
Dywedodd Kevin Protheroe, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd: "Mae agor @Loudoun yn achlysur o bwys i’r holl bartneriaid, yn enwedig y gymuned leol.
Gall y gymuned bellach fanteisio ar wasanaethau iechyd, gwasanaethau gwybodaeth a gwasanaethau hamdden o safon uchel, o dan yr un to. Gall trigolion lleol fynd i’r ganolfan newydd ar gyfer diwylliant a’r cyfryngau bob wythnos i wylio ffilm, heb dalu’r un geiniog. Mae yma hefyd gyfle i fwynhau prosiectau creadigol a lle i grwpiau cymunedol gynnal gweithgareddau, yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi. Credwn yn gryf y bydd @Loudoun yn cyfrannu’n fawr at adfywio Sgwâr Loudoun."
Mae gwasanaethau’r Cyngor hefyd ar gael yno gan gynnwys ‘Yr Hyb yn Butetown’, sydd wedi’i leoli ar y llawr cyntaf, ble mae holl wasanaethau’r Cyngor ar gael. Gwasanaeth hyfforddi a menter yw canolfan BEST, sy’n helpu pobl sy’n chwilio am waith i hyfforddi neu ddod o hyd i waith ac yn cynnig cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd i bobl sy’n gweithio, neu allan o waith. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli ar yr ail lawr.
Dechreuodd y gwaith ar y cynllun tair blynedd ym mis Mehefin 2010, ar ôl bod yn ymgynghori â’r gymuned ac yn cynllunio am bedair blynedd. Datblygwyd yr ardal yn wreiddiol yn y 1960au, ond roedd wedi mynd â’i phen iddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd hen ganolfan iechyd Butetown, sy’n dyddio o’r 1960au, yn cael ei dymchwel yn ystod cam olaf y prosiect, a chaiff 48 o randai eu cwblhau. Mae 13 o’r rhain wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl anabl. Disgwylir y bydd y cynllun wedi’i gwblhau erbyn mis Mawrth 2013.











