Mae trechu canser a’i ganlyniadau ledled Cymru yn ymrwymiad pwysig yn y Rhaglen Lywodraethu, yn ogystal ag yng nghynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG, "Law yn Llaw at Iechyd".
Mae’r ddogfen "Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser" yn darparu fframwaith sy’n sail ar gyfer camau’r Byrddau Iechyd Lleol. Mae’n amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y GIG yng Nghymru wrth iddo fynd i’r afael â chanser ar gyfer pobl o bob oed, ble bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru a beth bynnag yw eu hamgylchiadau.
Mae’r Cynllun yn disgrifio’r canlynol:
- Y canlyniadau rydym am eu gweld ar gyfer y boblogaeth a’r ffordd y byddwn yn mesur llwyddiant
- Y canlyniadau rydym yn eu disgwyl ar gyfer pobl o ganlyniad i ofal canser y GIG
- Y ffordd y byddwn yn mesur llwyddiant y GIG a lefel y perfformiad rydym yn ei disgwyl drwy Gymru erbyn 2016
- Themâu i’r GIG a’i bartneriaid weithredu arnynt, yn y cyfnod hyd at 2016.
Wrth lansio’r cynllun heddiw yn uned ganser Seren Wib, Ysbyty Maelor Wrecsam, dywedodd y Gweinidog Iechyd:
"Yma yng Nghymru y cafwyd y cyfraddau goroesi uchaf yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae nifer y bobl sy’n defnyddio rhaglenni sgrinio yma gyda’r uchaf yn Ewrop. Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol mewn triniaethau ac ymchwil.
"Er hynny, mae angen inni fynd gam ymhellach. Mae angen inni, er enghraifft, gynyddu’r cyfraddau goroesi eto fyth, yn enwedig yn ein cymunedau difreintiedig.
"Elfen bwysig o’n gwaith ni yw defnyddio profiad yr unigolyn o ofal canser y GIG er mwyn helpu i gynllunio gwasanaethau gwell. Caiff hyn ei gyflawni drwy ganolbwyntio ar faint o bobl sydd â Gweithiwr Allweddol i gydgysylltu gofal di-dor a chynllun gofal i asesu, cofnodi a diwallu anghenion yr unigolyn.
"Mae’n bryd i’r Byrddau Iechyd Lleol gymryd yr awenau yn awr, drwy weithio’n effeithiol gyda’u Hymddiriedolaethau GIG partner, meddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, optegwyr, llywodraeth leol, y trydydd sector ac eraill, i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau gofal canser y gall Cymru fod yn falch ohonynt."
Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd na fydd Cronfa Cyffuriau Canser yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.
Dywedodd Lesley Griffiths: "Nid oes unrhyw dystiolaeth fod Cronfa Cyffuriau Canser yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ansawdd bywyd na chyfraddau goroesi. Yn hytrach, mae tystiolaeth yn dangos bod diagnosis a thriniaeth fuan yn cyfrannu’n fwy at oroesi canser. Dyma’r pynciau y mae ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn canolbwyntio arnynt felly."











