Mae cam-drin yr henoed yn fater cymhleth a byd-eang, sy’n cwmpasu gwahanol fathau o niwed, boed yn y cartref, y gymuned neu mewn sefydliadau.
Nid dim ond rhywbeth i ni ei ystyried yng Nghymru yw hyn. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw am ymateb byd-eang i amddiffyn hawliau pobl hyn. Mae’n ymwneud â rhannu gwybodaeth ynglyn ag effeithiau esgeulustod a chamdriniaeth, a mynd i’r afael â’r rheini.
Meddai Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae codi ymwybyddiaeth o gam-drin yr henoed yn her, ac mae angen gwaith yn y maes gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau. Mae angen inni gydnabod mai gofal, cefnogaeth a pharch enfawr sy’n cael eu cynnig i’r henoed gan amlaf.
“Mae diogelu ac amddiffyn yn themâu pwysig yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) yr oedd ymgynghoriad cyhoeddus arno yn ddiweddar. Mae’r Bil yn cynnig fframwaith cyfreithiol ar gyfer sicrhau y bydd yr ymateb i achosion o gam-drin oedolion, gan gynnwys cam-drin yr henoed, yr un mor gyson a chadarn â’r ymateb i gam-drin plant. Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd.”











