Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Sut bydd system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yn gweithio yng Nghymru

Cyhoeddwyd Bil drafft sy’n nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cydsynio i roi organau a meinweoedd i’w trawsblannu yng Nghymru.
Dydd Llun 18 Mehefin 2012

 Mae’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) drafft yn paratoi’r ffordd ar gyfer system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ar hyn.

Lansiodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths y Bil drafft i ymgynghori arno yn Stadiwm Lecwydd yng Nghaerdydd, lle cafodd gyfarfod â dau athletwr sydd wedi derbyn organau gan roddwyr ac sydd wedi cystadlu yng Ngemau Trawsblannu’r Byd.

O dan y system newydd, y rhagwelir y bydd yn cael ei gweithredu yn 2015, caiff pobl y cyfle naill ai i wneud penderfyniad yn ffurfiol i fod yn rhoddwyr (optio i mewn) neu i beidio â bod yn rhoddwyr (optio allan), drwy osod eu henw ar gofrestr.

Ystyrir y bydd pobl dros 18 oed, sy’n dewis peidio gwneud y naill na’r llall, wedi cydsynio a gwneud penderfyniad cadarnhaol i roi eu horganau a meinweoedd i’w trawsblannu.

Mae’n hanfodol bod yn glir am rôl aelodau’r teulu mewn system feddal o optio allan. Mewn achosion lle nad yw unigolyn wedi optio i mewn nac optio allan, ni fydd yn ofynnol i aelodau’r teulu roi eu cydsyniad i’r rhodd ei hunan, oherwydd ystyrir fod cydsyniad yr ymadawedig eisoes wedi’i roi. Ond mae’n bwysig pwysleisio y caiff y mater hwn o roi organau ei drin mewn modd sensitif. Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, bydd teuluoedd yn dal i fod â rhan yn y broses, ac ni fydd modd bwrw ymlaen heb eu cymorth nhw.

Ni fydd ‘cydsyniad a ystyrir’ yn gymwys i bawb - bydd camau i ddiogelu plant, pobl nad yw’r gallu ganddyn nhw i gydsynio, a phobl nad ydyn nhw’n byw yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:

"Rydyn ni am weld newid yn y gyfraith i gynyddu nifer y rhoddwyr organau a meinweoedd ac i arbed bywydau.

"Gall un rhoddwr wella ac arbed bywydau hyd at naw o bobl eraill drwy roi eu horganau a llawer mwy drwy roi eu meinweoedd.

"Mae Cymru wedi gweld cynnydd o 49% yn y cyfraddau rhoi organau ers 2008, ac mae hyn yn llwyddiant anferthol i fod yn falch ohono. Ond mae prinder organau i’w trawsblannu o hyd. Yn 2011/12, yn drist iawn bu farw 37 o bobl yng Nghymru tra’r oeddent yn aros am organ.

"Rwy’n credu bod yr amser wedi dod i gyflwyno newid yn y gyfraith, ynghyd â rhaglen gyfathrebu ac addysgu eang i annog pobl i wneud penderfyniad ac i sicrhau bod eu teuluoedd yn gwybod beth yw eu dymuniadau."

Cafodd Stuart Davies, 45 oed, o Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin, rodd o aren pan gafodd ei drawsblaniad cyntaf yn 1992, a chafodd ail drawsblaniad yn 2003. Mae wedi cynrychioli Prydain Fawr yn nwy o Gemau Trawsblannu’r Byd, a Chaerdydd mewn naw o Gemau Trawsblannu Prydain, gan ennill cyfanswm o 43 o fedalau. Hefyd, am dair blynedd yn olynol, enillodd y Victor Laudorum am yr athletwr gwrywaidd gorau.


Dywedodd Stuart:

"Rwyf o blaid y ddeddfwriaeth sy’n cael ei chynnig gan Lywodraeth Cymru, ac rwyf o’r farn bod hyn yn golygu y bydd mwy o organau ar gael i’w trawsblannu. Ar ôl treulio bron i chwarter fy mywyd ar ddialysis, sy’n driniaeth ffyrnig, gwn yn rhy dda am y teimlad ansicr, llwm ac anobeithiol o aros am organ. Hefyd, gwelais sawl un o’m cyd-gleifion dialysis yn marw tra’r oeddent yn aros am drawsblaniad.


"Mae cael trawsblaniad wedi rhoi fy mywyd nôl imi ac wedi fy ngalluogi i fod yn ŵr iawn i’m gwraig, ac yn dad i’n merched ni. Yn fy marn i, os ydych chi’n barod i dderbyn organ os oes angen un arnoch, yna dylech chi, yn eich tro, hefyd fod yn barod i roi eich organau chi ar ôl marw."


Mae Tracy Baker, 34 oed, o Gastell-nedd, wedi ennill mwy na 30 o fedalau yng Ngemau Trawsblannu Prydain a dwy fedal aur yng Ngemau Trawsblannu’r Byd. Cafodd Tracy ei thrawsblaniad cyntaf yn 11 oed, a’r ail ym mis Hydref 2007.


Dywedodd Tracy:

"Ers i fi gael fy nhrawsblaniad, rwyf wedi bod yn rhedeg ac yn mynd i’r gampfa’n rheolaidd. Cyn y trawsblaniad ‘doedd gen i ddim egni i wneud yr un ohonynt. Ers hynny, rwyf wedi mynd o nerth i nerth ac mae cystadlu mewn athletau yn rhan fawr o ‘mywyd i erbyn hyn.


"Rwy’n cefnogi’n llwyr y system feddal o optio allan gan fod cael trawsblaniad wedi newid fy mywyd yn ddramatig. Rwy’n gallu byw bywyd ‘normal’, rwy’n gweithio ac yn hyfforddi’n galed, a gallaf ddweud nad wy’n gwybod beth fyddai fy hanes heb y trawsblaniad."


Ar ôl ystyried y pwyntiau a godwyd yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus eang ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth, mae’r Bil drafft wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad, a fydd yn dod i ben ar 10 Medi 2012. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid ledled Cymru yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 18 Mehefin 2012 Cymru iachach Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Tachwedd 2014
Ll M M I G S S
<< Hyd    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i