Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths wedi cyhoeddi’r grant a fydd yn talu am Uned Dialysis Arennol gyda 21 lle ar dir yr ysbyty.
Bydd hyn yn golygu y caiff mwy o gleifion y cyfle i dderbyn triniaeth yn lleol, gan leihau’r angen am deithio.
Mae’r Uned Dialysis arennol ar hyn o bryd yn gweithredu o adeilad dros dro a dim ond lle i chwech o gleifion ar y tro sydd yno. Er ei fod wedi’i ddylunio i alluogi hemodialysis, dim ond ei ddefnyddio fel cyfleuster dros dro oedd y bwriad gwreiddiol.
Bydd yr uned newydd yn darparu gwasanaethau arennol hanfodol i gleifion Gorllewin Cymru, gan ddarparu dyluniadau amgylcheddol sy’n sicrhau mai’r claf yw’r canolbwynt, fel sydd ei angen ar uned arennol fodern.
Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle ym mis Awst 2012 gyda’r nod o orffen erbyn dechrau 2014. Mae hyn yn rhan o raglen ddatblygu ar gyfer gofal dialysis arennol. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i foderneiddio cyfleusterau a chynyddu’r capasiti ar gyfer dialysis arennol mewn sawl canolfan addas ledled Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
“Rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi’r cyllid hwn. Mae nifer y cleifion sy’n dibynnu ar ddialysis yn parhau i gynyddu a bydd yr uned hon yn berffaith i ateb y galw cynyddol.
“Yn ystod cyfnod anodd, mae hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wella gwasanaethau yng Nghymru i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.”











