Dan system feddal o optio allan, oni bai fod rhywun yn cofrestru ei ddymuniad i fod naill ai’n rhoddwr (sef optio i mewn) neu i beidio â bod yn rhoddwr (sef optio allan), cymerir yn ganiataol eu bod wedi cydsynio. Fodd bynnag, bydd gan deulu’r person dan sylw ran bwysig i’w chwarae wrth drafod y mater o roi organau. Rhagwelir y daw’r system newydd i rym yn 2015.
Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, ar 18 Mehefin. Bydd yn rhedeg am 12 wythnos tan 10 Medi. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhelir y gweithdai a ganlyn i gasglu barn am y ddeddfwriaeth ddrafft:
9 Gorff. 14:00-16:30 Adeilad Margam, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe
11 Gorff. 14:00-16:30 Coleg Sir Benfro, Hwlffordd
12 Gorff. 14:00-16:30 Canolfan Fusnes Orbit,
Merthyr Tudful16 Gorff. 14:00-16:30 Gwesty’r St George, Llandudno
18 Gorff. 14:00-16:30 Theatr Glan yr Afon, Casnewydd
6 Awst 14:00-16:30 Neuadd y Ddinas, Caerdydd
8 Awst 9:00-11:30 Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau,
Llandrindod
Rydym am i gymaint o bobl â phosib ddod i roi eu barn am y ddeddfwriaeth ddrafft. Os byddwch am ddod, cysylltwch â’r Tîm Deddfwriaeth ar Roi Organau trwy ffonio 029 2082 1427











