Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

"Lledaenu’r neges": Gweinidog yn tanlinellu pwysigrwydd trafod rhoi organau

Bydd neges yr Wythnos Trawsblannu Genedlaethol, “Pass it on”, yn cael ei chryfhau gan y system newydd y bwriedir ei chyflwyno yng Nghymru, sef y system feddal o optio allan. Dyna a ddywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths heddiw.
Dydd Llun 09 Gorffennaf 2012

Mae ffigurau a ryddhawyd heddiw i nodi’r Wythnos Trawsblannu Genedlaethol yn dangos bod cefnogaeth y teulu i roi organau’n cynyddu’n sylweddol pan fo pobl yn ymwybodol o ddymuniadau’r rhai sy’n agos atynt.

Mae’r ffigurau, a ryddhawyd gan Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG,

yn dadlennu nad oedd mwy na hanner yr holl bobl a holwyd, ar draws y Deyrnas Unedig, wedi trafod eu barn ar roi organau gyda’u teuluoedd. Mae thema’r Wythnos Trawsblannu Genedlaethol, "Pass it on", yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi i bobl gael trafodaeth ynghylch rhoi organau gyda theulu a ffrindiau fel bod pawb yn ymwybodol o’u dymuniadau ar ôl eu marwolaeth.

Pan fo teuluoedd yn wynebu gwneud y penderfyniad o roi organau rhywun sy’n agos atynt, mae llawer yn gwrthod gwneud hynny am nad ydynt yn gwybod beth oedd dymuniad y sawl a fu farw. Mae hyn yn golygu bod mwy o bobl yn marw’n ddiangen wrth aros am drawsblaniad.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) drafft, a fydd yn cyflwyno system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau a meinweoedd yng Nghymru.

O dan y system feddal o optio allan, ystyrir bod person wedi cydsynio i roi organau oni bai fod y person hwnnw, yn ystod ei fywyd, wedi cofrestru ei ddymuniad i roi organau neu i beidio â rhoi organau. Er hynny, bydd teuluoedd yn dal yn rhan o’r trafodaethau am roi organau, fel sy’n digwydd nawr.

Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu bod teuluoedd yn fwy tebygol o deimlo y gallent gymryd rhan yn y broses o roi organau mewn gwledydd lle y mae yna system o optio allan, oherwydd eu bod yn sicr y byddai’r person sy’n agos atynt wedi optio allan petai’n gwrthwynebu rhoi organau.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Yr wyf yn wirioneddol gefnogol i neges ‘Pass it on’ yr Wythnos Trawsblannu Genedlaethol. Tra’n derbyn nad yw marwolaeth yn bwnc hawdd i’w drafod, mae’n hynod bwysig bod y rhai sy’n agos atoch yn cael gwybod am eich dymuniadau o ran rhoi organau.

"Ychydig iawn ohonom a fydd fyth yn esgidiau’r un sy’n rhoi organau – a dyna pam mae’n rhaid i ni wneud popeth posib i annog pobl i feddwl am eu safbwyntiau, a’u trafod.

"Bydd ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr yn rhan hynod bwysig o gyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru. Bydd yr ymgyrch yn sicrhau bod pobl yn hollol glir ynglŷn â’u dewisiadau, a bydd yn annog pobl i drin a thrafod y mater o roi organau gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft

Gwefannau

NHS Blood and Transplant

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 09 Gorffennaf 2012 Rhoi organau Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i