“Wrth i fwy o bobl ddioddef o ddiabetes math 2 a phwysau gwaed uchel, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu gwell triniaethau ac yn mynd i’r afael ag achosion y cyflyrau yma, gan gynnwys deiet a ffordd o fyw. Rydym am weld pobl yn bwyta’n dda ac yn cynnal eu pwysau ar lefel iach.
“Wrth i McDonald’s baratoi i agor ei fwyty mwyaf yn y byd yng nghanol y Parc Olympaidd ac wrth i’r noddwr, Coca Cola, ein llethu â’i hysbysebion, rwyf am inni ystyried y cysylltiadau rhwng digwyddiadau chwaraeon, brandiau sy’n hybu bwydydd a diodydd brys, a’n harferion bwyta ni.
“Prin y gallech chi ddychmygu hysbysebion tybaco mewn digwyddiadau chwaraeon y dyddiau hyn, ac mae’r cysylltiadau rhwng tybaco a marwolaethau o ganser a chlefydau anadlol yn amlwg i bawb. Mae amryw o wledydd hefyd yn gwahardd hysbysebu alcohol ym myd chwaraeon.
“Rydym ni yng Nghymru’n bwyta gormod o fwydydd wedi’u prosesu, sy’n llawn braster, siwgr a halen, ac yn yfed gormod o ddiodydd swigod. Credaf fod pawb yn ymwybodol o’r cyswllt rhwng bwyta ac yfed llawer o’r rhain yn rheolaidd a gordewdra.
“Wrth i fwy o bobl ddioddef o afiechydon sy’n gysylltiedig â’u ffordd o fyw, fel clefyd y galon a diabetes math 2, mae’r GIG wedi dod yn well am eu trin. Ond mae’r rhain yn gyflyrau y mae modd eu hosgoi, i raddau helaeth, ac mae’n hanfodol ein bod yn helpu cymaint o bobl â phosib i’w hosgoi.
“Gwyddom fod pobl yn byw’n h?n yng Nghymru, ac y bydd mwy o bobl angen cefnogaeth i wneud hynny. Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd 100,000 yn fwy o bobl yn cael diabetes math 2 rhwng 2010 a 2030, a bydd hynny’n rhoi mwy fyth o faich ar ein GIG a’n gwasanaethau gofal cymdeithasol.
“Mae angen inni wneud mwy i annog pobl i ddewis bwyd iachach a ffordd o fyw fwy egnïol. Bydd y Bil Teithio Llesol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arno’n cyfrannu at hyn, ond hoffwn weld mesurau mwy sylfaenol i annog pobl i newid eu harferion bwyta.
“Mae’n hollbwysig annog arferion bwyta iach, fel y mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar safonau maeth, Blas am Oes, yn ei wneud trwy argymell na ddylid caniatáu unrhyw ddiodydd swigod mewn ysgolion.
"Mae maer Efrog Newydd wedi cynnig y dylid gwahardd diodydd swigod enfawr mewn tai bwyta, siopau deli, sinemâu a chanolfannau chwaraeon. Mae’n werth ystyried gwneud hyn yng Nghymru.
“Er nad yw’r pwerau i wahardd hysbysebu bwydydd brys wedi’u datganoli yng Nghymru, credaf fod angen inni chwalu’r berthynas rhwng llwyddiant ym myd chwaraeon, alcohol, diodydd swigod a bwydydd brys. Ni fydd athletwyr yn cyrraedd y brig drwy fwyta byrgyrs a sglodion, neu drwy yfed cola neu oryfed alcohol yn wirion. Fel smygu, dyw’r rhain yn cyfrannu dim at eu gallu ym myd chwaraeon ac o’u bwyta’n rheolaidd, maen nhw’n cyfrannu at ordewdra a’r problemau iechyd sy’n gysylltiedig â hynny.
“Mae yna lawer i’w wneud i daclo gordewdra, ac mae dweud yn glir nad oes lle i fwydydd brys ym myd chwaraeon yn anfon neges glir.”
- Hafan
- Amdanom ni
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Troi tai’n gartrefi
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion canfyddiadau a ddaeth i'r amlwg o'r gwerthusiad yn ystod y chwe mis cyntaf cyflwyno (Ebrill-Medi 2012).
Datganiad Ysgrifenedig - Bil Rheoli Cŵn (Drafft) Cymru »
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn delio’n effeithiol â chŵn sy’n beryglus ac allan o reolaeth.
Rhagor o wybodaeth » - Newyddion
Y newyddion diweddaraf
-
Gweinidog yn dweud wrth reolwyr y GIG: “Gwrandewch ar eich staff a gweithredwch”
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi rhoi neges glir i reolwyr y GIG weithredu mewn ymateb i arolwg staff diweddar GIG Cymru
- Gweinidog yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia
- Porth Eirias ar y trywydd i fod yn atyniad mawr yn y Gogledd
- Canllawiau ar gyfer Arian Adfywio gwerth £90m
-
- Pynciau
O ddiddordeb »
Tai a chymunedau
Astudiaethau achos ym maes tai
Cynlluniau tai sy'n trawsnewid bywydau.Rhagor o wybodaeth » - Cyhoeddiadau
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Rhyddid gwybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dilyn egwyddorion llywodraeth agored ers blynyddoedd bellach. Gwelwch sut mae gwneud cais rhyddid gwybodaeth, a pa geisiadau sydd wedi eu ateb.
Safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir »
Defnyddir y safonau hyn i benderfynu a yw’r gofal a ddarperir gan leoliadau gwarchod plant a gofal dydd yn ddigonol ar gyfer plant dan wyth oed.Rhagor o wybodaeth » - Ymgynghori
Ychwanegwyd yn ddiweddar
- Parhad a Newid - Adnewyddu’r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru
- Diddymu ‘Asesiadau Pellach’ ynghylch ansawdd aer o Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995
- Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 ar gyfer Cymru Adroddiad Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Yn dod i ben yn fuan
- Ymgynghori ar yr Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru 2014 – 2020
- Fframwaith safonau a chanlyniadau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc yng Nghymru
- Asesiad Amgylcheddol Strategol: Adroddiad Amgylcheddol, Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer Cymru 2014-2020
- Deddfwriaeth
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2013
Mae’r Bil yn dileu nifer o gyfyngiadau a rheolaethau technegol ar golegau heb newid y prif bwerau sydd gan golegau i ddarparu addysg bellach, addysg uwch ac addysg uwchradd.Rhaglen Ddeddfwriaethol 2012 - 2013 »
Wrth annerch y Cynulliad yn y Senedd heddiw amlinellodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yr wyth bil yn Rhaglen Ddeddfwriaethol 5 mlynedd Llywodraeth Cymru a gyflwynir yn ystod ail flwyddyn y Cynulliad Cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth » - Ariannu
Prif storïau'r adran
Ardoll Seilwaith Cymunedol
Caiff awdurdodau lleol godi Ardoll Seilwaith Cymunedol ar ddatblygiadau newydd er mwyn cefnogi’r seilwaith sydd ei angen.
Ail Gyllideb Atodol 2012-13 »
Mae'r Ail Gyllideb Atodol yn cynnig sawl newid i Gyllideb Atodol Gyntaf 2012-2013, a gyhoeddwyd ar 26 Mehefin 2012.
Rhagor o wybodaeth »
- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru


