“Wrth i fwy o bobl ddioddef o ddiabetes math 2 a phwysau gwaed uchel, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu gwell triniaethau ac yn mynd i’r afael ag achosion y cyflyrau yma, gan gynnwys deiet a ffordd o fyw. Rydym am weld pobl yn bwyta’n dda ac yn cynnal eu pwysau ar lefel iach.
“Wrth i McDonald’s baratoi i agor ei fwyty mwyaf yn y byd yng nghanol y Parc Olympaidd ac wrth i’r noddwr, Coca Cola, ein llethu â’i hysbysebion, rwyf am inni ystyried y cysylltiadau rhwng digwyddiadau chwaraeon, brandiau sy’n hybu bwydydd a diodydd brys, a’n harferion bwyta ni.
“Prin y gallech chi ddychmygu hysbysebion tybaco mewn digwyddiadau chwaraeon y dyddiau hyn, ac mae’r cysylltiadau rhwng tybaco a marwolaethau o ganser a chlefydau anadlol yn amlwg i bawb. Mae amryw o wledydd hefyd yn gwahardd hysbysebu alcohol ym myd chwaraeon.
“Rydym ni yng Nghymru’n bwyta gormod o fwydydd wedi’u prosesu, sy’n llawn braster, siwgr a halen, ac yn yfed gormod o ddiodydd swigod. Credaf fod pawb yn ymwybodol o’r cyswllt rhwng bwyta ac yfed llawer o’r rhain yn rheolaidd a gordewdra.
“Wrth i fwy o bobl ddioddef o afiechydon sy’n gysylltiedig â’u ffordd o fyw, fel clefyd y galon a diabetes math 2, mae’r GIG wedi dod yn well am eu trin. Ond mae’r rhain yn gyflyrau y mae modd eu hosgoi, i raddau helaeth, ac mae’n hanfodol ein bod yn helpu cymaint o bobl â phosib i’w hosgoi.
“Gwyddom fod pobl yn byw’n h?n yng Nghymru, ac y bydd mwy o bobl angen cefnogaeth i wneud hynny. Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd 100,000 yn fwy o bobl yn cael diabetes math 2 rhwng 2010 a 2030, a bydd hynny’n rhoi mwy fyth o faich ar ein GIG a’n gwasanaethau gofal cymdeithasol.
“Mae angen inni wneud mwy i annog pobl i ddewis bwyd iachach a ffordd o fyw fwy egnïol. Bydd y Bil Teithio Llesol y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arno’n cyfrannu at hyn, ond hoffwn weld mesurau mwy sylfaenol i annog pobl i newid eu harferion bwyta.
“Mae’n hollbwysig annog arferion bwyta iach, fel y mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar safonau maeth, Blas am Oes, yn ei wneud trwy argymell na ddylid caniatáu unrhyw ddiodydd swigod mewn ysgolion.
"Mae maer Efrog Newydd wedi cynnig y dylid gwahardd diodydd swigod enfawr mewn tai bwyta, siopau deli, sinemâu a chanolfannau chwaraeon. Mae’n werth ystyried gwneud hyn yng Nghymru.
“Er nad yw’r pwerau i wahardd hysbysebu bwydydd brys wedi’u datganoli yng Nghymru, credaf fod angen inni chwalu’r berthynas rhwng llwyddiant ym myd chwaraeon, alcohol, diodydd swigod a bwydydd brys. Ni fydd athletwyr yn cyrraedd y brig drwy fwyta byrgyrs a sglodion, neu drwy yfed cola neu oryfed alcohol yn wirion. Fel smygu, dyw’r rhain yn cyfrannu dim at eu gallu ym myd chwaraeon ac o’u bwyta’n rheolaidd, maen nhw’n cyfrannu at ordewdra a’r problemau iechyd sy’n gysylltiedig â hynny.
“Mae yna lawer i’w wneud i daclo gordewdra, ac mae dweud yn glir nad oes lle i fwydydd brys ym myd chwaraeon yn anfon neges glir.”
- Hafan
- Amdanom ni
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Gwasanaeth Iechyd y Bobl
Roedd hyn yn rhan o fenter i ymgysylltu â'r cyhoedd yn fwy uniongyrchol o ran creu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Lledaenu’r gair »
Gweithredu ar lawr gwlad i gael rhagor o ddeunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg.
Rhagor o wybodaeth » - Newyddion
Y newyddion diweddaraf
-
Y Prif Weinidog yn galw am weithredu er mwyn y Gymraeg
Mae pobl o bob cwr o Gymru lle mae’r Gymraeg yn bwysig iddyn nhw yn cael eu gwahodd i gyfrannu at ei dyfodol drwy gymryd rhan mewn sgwrs genedlaethol ar-lein.
- Cymeradwyo’r Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth)
- Y Gweinidog yn croesawu adroddiad a allai newid ffurf a strwythur y ddarpariaeth addysg yng Nghymru er gwell
- Y nifer uchaf erioed o ymgeiswyr yn y gwobrau twristiaeth
-
- Pynciau
O ddiddordeb »
Y Gymraeg
Cynllun gweithredu technoleg a’r cyfryngau digidol cymraeg
Mae’r cynllun gweithredu hwn yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i chwarae rôl blaengar wrth sbarduno datblygiadau ym maes Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg.Rhagor o wybodaeth » - Cyhoeddiadau
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Rhyddid gwybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dilyn egwyddorion llywodraeth agored ers blynyddoedd bellach. Gwelwch sut mae gwneud cais rhyddid gwybodaeth, a pa geisiadau sydd wedi eu ateb.
Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru 2013-2023 »
Mae trydydd cam y Strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl hŷn yng Nghymru yr adnoddau y mae arnynt eu hangen i ymdopi â'r heriau a'r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu.Rhagor o wybodaeth » - Ymgynghori
Ychwanegwyd yn ddiweddar
- Ymgynghoriad ar weledigaeth newydd ar gyfer Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
- Darparu gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol
- Ymgynghoriad ar Nodyn Cyngor Technegol Drafft (TAN) 23 Datblygu Economaidd
Yn dod i ben yn fuan
- Cynllun drafft y sector diwydiannol a masnachol
- Y Rhaglen Atal Gwastraff
- System Rheoli Adeiladu a’r Ddogfen Gymeradwy sy’n cefnogi rheoliad 7
- Deddfwriaeth
Yn yr adran hon
Prif storïau'r adran
Adolygiad o’r System Gorfodi Cynllunio
Mae’r ymchwil yn cwmpasu 18 o argymhellion ar gyfer system orfodi Cymru yn y dyfodol.Rhaglen Ddeddfwriaethol 2012 - 2013 »
Wrth annerch y Cynulliad yn y Senedd heddiw amlinellodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yr wyth bil yn Rhaglen Ddeddfwriaethol 5 mlynedd Llywodraeth Cymru a gyflwynir yn ystod ail flwyddyn y Cynulliad Cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth » - Ariannu
Prif storïau'r adran
Ardoll Seilwaith Cymunedol
Caiff awdurdodau lleol godi Ardoll Seilwaith Cymunedol ar ddatblygiadau newydd er mwyn cefnogi’r seilwaith sydd ei angen.
Astudiaethau Achos Buddsoddi yn Seilwaith Cymru »
Dyma rai enghreifftiau o’r prosiectau buddsoddi mewn seilwaith a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru.
Rhagor o wybodaeth »
- » Fy nghyfrif |
- Cofrestru


