Bydd EMIS ac INPS, darparwyr gwasanaethau TG i bractisau meddygon teulu, yn cynnig gwasanaeth TG wedi’i reoli i feddygfeydd y wlad.
Disgwylir y bydd y cytundeb newydd hwn yn darparu gwasanaethau cadarnach, cryfach a chanolog, yn unol â’r Strategaeth Systemau Clinigol i Feddygon Teulu. Bydd hefyd yn gwella lefelau gwasanaeth ar yr un lefel o wariant â’r fframwaith blaenorol.
Prif elfennau’r cytundeb fframwaith hwn yw Gwasanaeth Meddalwedd i Bractisau, Caledwedd a Meddalwedd Canolfan Data, Cronfa ddata Cyffuriau a Chyfleustodau - Cefnogaeth a Chynhaliaeth a Hyfforddiant. Bydd y Cytundeb Fframwaith newydd hwn, sydd â mwy nag un cyflenwr, yn cynnwys y canlynol
- Cydgysylltu a rheoli Cyllideb Technoleg a Rheoli Gwybodaeth y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar lefel genedlaethol ar ran y Byrddau Iechyd. Caiff hyn ei wneud drwy fabwysiadu’r dull Unwaith i Gymru, gan sicrhau bod y Gwasanaethau Technoleg a Rheoli Gwybodaeth yn cael eu gweinyddu’n effeithlon a’u darparu’n gost effeithiol ac yn deg i’r holl Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru.
- Cytundeb Fframwaith cenedlaethol i gynorthwyo cynhyrchion trydydd parti a gymeradwywyd i ddarparu gwell gwerth am arian a’r gallu i ryngweithredu’n dda.
- System Cytundeb Fframwaith newydd i feddygon teulu sy’n gwella ar y cytundeb fframwaith presennol gan sicrhau prisiau cystadleuol, gwerth am arian a hyblygrwydd o ran datblygu a chaffael gwasanaethau craidd a gwasanaethau ychwanegol.
- Systemau’r genhedlaeth nesaf i feddygon teulu, sy’n cefnogi’r GIG i gyflenwi’r modelau gofal iechyd sylfaenol a chymunedol newydd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths:
“Mae’n bleser gallu cyhoeddi’r cytundeb rhwng GIG Cymru a’r cyflenwyr practisau meddygon teulu, EMIS ac INPS
“Bydd y fframwaith sy’n defnyddio mwy nag un cyflenwr yn gwella gwasanaethau’r meddygon teulu i’r claf.
“Mae’n cynnig llawer mwy na chymorth TG a chyfleustra Fy Iechyd Ar-lein, lle gall pobl drefnu eu hapwyntiadau eu hunain. Bydd y fframwaith newydd hwn yn golygu bod modd gwneud e-atgyfeiriadau, gan anfon gwybodaeth glir a chyson yn gyflym ac yn ddiogel. Ac mae’n gweithio’r ffordd arall hefyd. Bydd modd e-bostio canlyniadau rhwng y meddyg ymgynghorol a’r meddyg teulu. Mae’n fwy cost effeithiol, ac yn bwysicach na dim, yn fwy diogel i’r claf.
“Mae’r dewis o gyflenwyr gyda’r fframwaith hwn yn golygu y bydd meddygon teulu’n gallu addasu eu cyflenwyr yn benodol i ddiwallu eu hanghenion nhw yn dilyn proses ddethol sy’n deg ac yn agored.











