Mae gan yr ap dwyieithog fanylion am ystod o wasanaethau iechyd yng Nghymru, gan gynnwys fferyllfeydd, meddygon teulu, optometryddion, deintyddion, unedau mân anafiadau ac unedau achosion brys.
Mae ymgyrch Dewis Doeth yn helpu cleifion yng Nghymru i ddewis y lle gorau i gael triniaeth os byddan nhw’n sâl.
Mae tystiolaeth yn dangos bod nifer sylweddol o bobl yn parhau i fynd i unedau achosion brys neu ffonio 999 pan fo gwasanaethau eraill ar gael sy’n fwy cyfleus ac addas i’w hanghenion.
Mae’r ymgyrch yn defnyddio thermomedr â gwahanol liwiau i helpu pobl i ddod o hyd i wasanaeth GIG sy’n briodol i’w symptomau.
Mae’r ap Dewis Doeth ar gael i’w lawrlwytho am ddim i’r iPhone a’r iPad o 17 Gorffennaf 2012 ymlaen. Caiff fersiwn Android o’r ap ei ryddhau yn yr hydref.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
"Drwy roi dewis i bobl a’u helpu nhw i ddeall yr ystod o wahanol gefnogaeth sydd ar gael, mae’r ymgyrch Dewis Doeth yn helpu aelodau’r cyhoedd i ddeall sut y gallan nhw helpu eu hunain a’r GIG drwy ddewis y gwasanaeth mwyaf priodol os byddan nhw’n sâl.
"Mae defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn galluogi pobl i gael gwybodaeth yn gyflym ac yn rhwydd. Bydd cleifion a fydd yn defnyddio ap Dewis Doeth yn cael triniaeth a gofal gwell, cyflymach a mwy effeithiol.
"Mae dewis y gofal mwyaf priodol o fudd i’r cleifion ac i’r meddygon, y nyrsys a’r gweithwyr proffesiynol gofal iechyd – gan eu galluogi i gynnal safon uchel o wasanaethau.
"Yn ogystal â bod yn gymorth i drigolion Cymru, bydd yr ap hefyd yn ddefnyddiol i bobl sy’n llai cyfarwydd â’n gwasanaeth iechyd, megis myfyrwyr ac ymwelwyr. Gobeithio y caiff y bobl a fydd yn dod yma ar gyfer digwyddiadau’r Gemau Olympaidd sy’n cael eu cynnal yng Nghymru yn cael amser iach a hapus yma, ond os bydd angen cymorth meddygol arnyn nhw, bydd yr ap Dewis Doeth yn help i ddod o hyd i’r driniaeth briodol."











