Ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â’r rhannau sydd wedi’u hadnewyddu. Mae’r rhannau newydd hyn wrth ymyl y rhannau a adnewyddwyd yn ystod y cam cyntaf – mae hyn yn integreiddio’r ganolfan gofal brys gyda’r uned llawdriniaeth ddydd.
Bydd y buddsoddiad enfawr hwn yng nghanolfan gofal brys newydd Ysbyty’r Tywysog Siarl yn cyflymu triniaeth ac yn gwella’r amgylchedd gofal brys i’r cleifion yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys mwy o breifatrwydd ac urddas yn ogystal â chyfleusterau gwell o lawer ar gyfer gweld a thrin cleifion.
Bydd y ganolfan gofal brys fodern hefyd yn darparu cyfleusterau newydd ar gyfer gwasanaethau asesu trawma, meddygol a llawfeddygol.
Nawr bod cam dau wedi’i gwblhau, bydd cleifion yn gallu cael mynediad drwy brif fynedfa newydd yr uned achosion brys a fydd wedi’i integreiddio â’r uned llawdriniaeth ddydd newydd. Mae hefyd yn caniatáu cael gwared ar asbestos a rhoi llawr newydd mewn mannau cyfagos sydd wedi’u gwacáu.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths:
“Law yn Llaw at Iechyd yw fy ngweledigaeth bum mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru. Nod y weledigaeth yw sicrhau gwell iechyd i bawb, gwell mynediad i wasanaethau a gwell profiad i gleifion. Hefyd ceir ymrwymiad i wella diogelwch ac ansawdd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i gleifion. Mae’r ganolfan gofal brys hon yn enghraifft wych o Llaw yn Llaw at Iechyd ar waith.
“Gall trigolion Merthyr Tudful ddod i’r ganolfan hon gan wybod y bydd y staff gwych yn eu helpu pan fydd angen cymorth arnynt. Bydd y ganolfan newydd yn cyflymu triniaeth ac yn gwella’r amgylchedd gofal brys yn sylweddol i’r holl gleifion, gan sicrhau mwy o breifatrwydd ac urddas iddyn nhw wrth dderbyn gofal. Rwy’n siŵr bod y staff yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau newydd, sydd gymaint yn well na’r hen rai, gymaint â’r cleifion.
“Mae’r buddsoddiad hwn o £29m yn y ganolfan gofal brys yn rhan o’r ymrwymiad i’r rôl flaenllaw a sylweddol y bydd Ysbyty’r Tywysog Siarl yn parhau i’w chwarae yn yr ardal. Mae llawer iawn o waith yn digwydd yma ac rwy’n falch iawn o barhau i gefnogi’r gwaith a wneir ar yr achos busnes ar gyfer ailddatblygu’r ysbyty strategol hwn ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf:
“Mae’n gwbl briodol i drigolion Merthyr Tudful a Blaenau’r Cymoedd gael mynediad at y cyfleusterau mwyaf modern ym maes meddygaeth frys. Mae cwblhau’r ganolfan gofal brys newydd a’r uned meddygfa dydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn sicrhau hynny.
“Dyma gyfnod cyffrous iawn i staff a chleifion yr ysbyty – bydd y ganolfan newydd hon yn gwella mynediad y boblogaeth leol at ofal o’r radd flaenaf.
“Mae’r datblygiadau hyn, ynghyd â’r rhaglen i ailwampio’r wardiau, yn ategu pwysigrwydd Ysbyty’r Tywysog Siarl a’i rôl yn y gwaith o ddarparu gofal iechyd yn ne Cymru yn y dyfodol.”











