Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn agor Uned Dialysis Arennol yn Ysbyty Coffa Llandrindod

Mae cleifion yng nghanolbarth Cymru wedi croesawu’r Uned Dialysis Arennol i Ysbyty Coffa Llandrindod.
Dydd Mercher 01 Awst 2012

Cafodd y cyfleuster, sy’n weithredol ers mis Mawrth, ei agor yn swyddogol gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn seremoni ddydd Mercher, 1 Awst.

Mae tua 10,000 o bobl yn dioddef o glefyd arennol yng Nghymru, ac mae llawer yn rhagor mewn perygl. Mae’n effeithio ar fywyd bob dydd y cleifion, eu teuluoedd a’u cyfeillion.

Cyn i’r uned agor, roedd yn rhaid i gleifion clefyd arennol ym Mhowys deithio i safleoedd eraill, yn Lloegr yn bennaf, gan deithio hyd at ddwyawr bob ffordd, dair gwaith yr wythnos. Trwy gael cyfleuster yn Llandrindod, bydd y cleifion yn gallu derbyn eu triniaeth ddialysis yn lleol.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd:

“Rydym wedi buddsoddi yn y gwasanaeth yma yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu derbyn dialysis arennol yn nes at adref.

“Mae Law yn Llaw at Iechyd, sef ein cynllun pum mlynedd ar gyfer y GIG yng Nghymru, yn rhoi pwyslais ar ein polisi allweddol o ddarparu gwasanaethau diogel o safon mor agos ag y bo modd at gartrefi pobl fel nad ydynt yn gorfod teithio cymaint.

“Mae’r ganolfan yma yn enghraifft wych o newid mewn triniaeth a oedd, yn draddodiadol, yn cael ei darparu mewn lleoliad gofal eilaidd, ond sydd, erbyn hyn, ar gael yn fwy lleol.

“Ar adeg pryd y mae cymaint o ansicrwydd i’w deimlo, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau yng Nghymru, i’w gwneud yn ddiogel ac yn gynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

“Byddwn yn parhau i foderneiddio cyfleusterau a chynyddu’r gallu i gynnig dialysis ar nifer o safleoedd addas yng Nghymru fel rhan o raglen ddatblygu ym maes gofal dialysis arennol.”

Mae’r uned newydd yn darparu pedwar lle ar y llawr cyntaf yn yr Ysbyty Coffa yn Llandrindod. Yn seiliedig ar batrwm shifftiau arferol, sef dwywaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos, gall drin hyd at 16 o gleifion.


 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Gwefannau

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Tagiau

Iechyd a gofal cymdeithasol 01 Awst 2012 Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i