Mae’r fideo’n cynnwys yr holl gwestiynau cyffredinol am y ddeddfwriaeth arfaethedig, fel “Beth yn union a olygir gan y system ‘feddal’ o optio allan”, a “Pryd fydd cydsyniad a ystyrir ddim yn berthnasol”.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:
“Mae hwn yn bwnc sensitif iawn a gobeithio y bydd y fideo’n helpu i roi gwybodaeth i bobl am sut y bydd y system newydd yn gweithio ac yn rhoi hyder iddynt ynddi.
“Rwyf o’r farn y bydd y ddeddfwriaeth hon yn arbed bywydau, ac er bod Cymru wedi gwneud camau breision yn cynyddu nifer y bobl ar y Gofrestr Rhoi Organau, rwy’n meddwl bod y wlad hon yn barod i gymryd y cam nesaf.”
Mae digon o amser o hyd i gael dweud eich dweud am fanylion y ddeddfwriaeth. Bydd yr ymgynghoriad yn dal ar agor i dderbyn ymatebion tan ddydd Llun 10 Medi.











